hyn i fyn'd yn mlaen am beth amser, nes o'r diwedd cauodd yr hen berson y Beibl, neu y Common Prayer,— wn i ddim p'run,—a dywedodd,—" Ddarllenaf fi ddim gair eto nes i'r ddau fachgen yma fyn'd allan." Ar hyn daeth Charles y Clochydd o'r pwlpud bach, ac agorodd ddrws y sedd i'r ddau derfysgwr fyn'd allan, ac wrth iddynt fyn'd dywedodd yr hen berson duwiol,—“ Gewch chi wel'd lle y byddwch chwi fory." Digwyddodd mai pedwar oedd yn yr eglwys ar y pryd, heblaw y person, y clochydd, a'r ddau derfysgwr, digwyddiad lled gyffredin y dyddiau hyny. Wel yfory a ddaeth, ac mor sicr a hyny rybudd oddiwrth y rheithor yn bygwth cospi y pechaduriaid. Ystorom fawr a fu hi yn nghartrefi y ddau fachgen drwg, a'r diwedd a fu iddynt orfod myn'd i dy y person i ofyn maddeuant, yr hyn a roddwyd yn rhad, a chyda hyny swllt bob un a darn mawr o fara brith. Llawen oedd y ddau "edifeiriol fod
"Eu beiau wedi 'i maddeu
A'u traed yn berffaith rydd,"
oblegid carchar Dolgellau neu y stocs o flaen y lock-up oedd wedi bod yn eu meddyliau trwy'r dydd. Ond fe drowyd y llawenydd yn dristwch y boreu dranoeth pan y cyhoeddodd ysgolfeistr yr Ysgol Frytanaidd, Y Prifathraw Price, Coleg Normalaidd, Bangor, y ffaith yn yr ysgol ar gais rhieni y troseddwyr. Mae'r ddau fachgen yn fyw heddyw, a'u penau wedi gwynu, a'r unig gysur sydd ganddynt i feddwl am dano ydyw yr hyn a ddywedodd y Dr. Lewis Edwards un tro mewn cwmni, wrth adrodd yr hanes yn mhresenoldeb un o'r "pechaduriaid," fod y ddau wedi cael dau "dro" yr un wythnos, sef eu troi o Eglwys Llanfor a'u troi o fod yn fechgyn drwg i fod yn fechgyn da. Cysur arall hefyd ydyw, mai nid hwy oedd y rhai cyntaf i gael eu troi o'r eglwys; ni raid ond enwi dau, sef Thomas Charles o'r Bala. a Daniel Rowland Llangeitho.