yn ei hol, ac mi ddaw yr hen ffrindia sydd wedi ein anghofio ni, y rhai fyddai yn llenwi y ty yma pan aeth Robat yn sâl gynta', a phan oeddan ni yn o dda allan. Mi ddo'n nhwtha yn ol; dyna arfer a dull y byd hwn er amser Job. Wyddoch chi pwy adnod oeddwn i yn ei darllen pan ddosoch chi i mewn: dyma hi,—'Yna ei holl geraint a'i garesau, a phawb o'i gydnabod ef o'r blaen, a ddaethant ac a fwytasant fwyd gydag ef yn ei dy, ac a gwynasant iddo, ac a'i cysurasant am yr holl ddrwg a ddygasai yr Arglwydd arno ef,' &c. Tybed, tybed, da Robat yn mendio y bydda hi felly arno ni?" O byddai, Elin Jones," meddwn ina. "Fel y dywedwch chi, dyna ddull y byd hwn, ac 'i'r pant y rhed y dwr' wyddoch chi; 'ond cyfaill calon mewn ing ei gwelir.'"
"O, peidiwch a meddwl am fynud nad oes genym nina ffrindia, hen gyfaill. O oes, mae rhai wedi bod yn driw i ni trwy'r cwbl; ydyn, yn driw iawn. Ond y peth rhyfedda ydi, mai y rhai yr oeddym ni wedi gwneyd fwya iddyn nhw, a'r rhai oedd Robat druan wedi troi mwyaf yn eu plith, dyna y rhai oedd y cynta i droi eu cefna arno ni."
"Ond mae pobl y capel wedi bod yn driw i chi, mae'n siwr."
Fynwn i ar fy mywyd ddyweyd gair bach am bobl y capel; ond ydyn nhw ddim ond wedi bod fel rhyw bobl arall. Fasech chi byth yn credu, ond mae gwraig y Rectory wedi bod yn ffeind iawn wrtha ni, a'r hen Rector wedi bod yma mor aml, er na thwllodd Robat erioed yr eglwys ond pan yn myn'd i gynhebrwg." "Ond mi fydda Robat yn cymeryd gryn fusnes tua amser y lecsiwn. Yr ydw i yn ei gofio fo amser Watkin Williams yn siarad yn llewis ei grys ar y wal yn ymyl yr efail. Mae nhw, y Librals, wedi bod yn ffeind iawn, dwi'n siwr, Elin Jones.'
"Na, hen gyfaill, wyddom ni ddim gwahaniaeth rhwng Whigs a Toris. Mae rhai o'r Toris wedi bod yn ffeind iawn, a da Robat yn mendio, anodd iawn fasa geno fo fotio yn i herbyn nhw."