Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Pe dai Robat yn mendio, Elin Jones, fydda dim llawer o dryst na fyddo fo gymaint o Radical ag erioed."

"Yn wir, dyna Robat yn curo y llofft—mae o wedi deffro. Gorphenwch y gwpanaid yna, a dowch i fyny; mi fydd yn dda iawn ganddo fo eich gweled, er na fedar o ddim siarad llawar.'

"All right, Elin Jones, mi ddof i fyny ar eich hol; ac os na fedar o siarad gallwch chwi wneyd y diffyg fyny, peth siwr iawn ydi o."

Yr oedd fy hen gyfaill, y gôf, yn edrych dipyn gwell nag oedd pan welais ef flwyddyn yn ol, ac yr oedd yn dda iawn ganddo fy ngweled.

"Wel, Robat bach, sut yr ydach chi erbyn hyn?"

"Diar mi, hen gyfaill anwyl, mae yn dda gen i ych gwel'd chi; ac wedi d'od yr holl ffordd, a hyny ar ddiwrnod diolchgarwch. Dyma y chweched diwrnod diolchgarwch i mi golli; ond os nad ydw i yno o ran corph, y mae fy ysbryd gyda'r brodyr. Ydach chi wedi cael yr yd i gyd? Mae nhw yn deyd i mi fod yna lawer iawn heb ei gael, a llawer wedi ei ddifetha. Mi ddylasan fod wedi cael dydd o ymostyngiad er's talwm. Bydd yn anhawdd iawn i rai o'r ffarmwrs fyn'd ar eu gliniau i ddiolch am y cynhaua, a nhwtha heb ei gael."

Ar ol araeth mor faith yr oedd Robat druan wedi colli ei anadl yn llwyr, ac Elin yn deyd wrtho, "Peidiwch a siarad chwaneg, Robat bach; neith yr hen gyfaill ddim digio wrthych."

Treuliais rai oriau hynod o ddyddan yn nghwmni y gôf. Yr oedd yn rhaid iddo gael rho'i pwt i fewn yn ei dwrn. Yr oedd methu yn yn lân a deall y drefn. Yr oedd rhai o bobl y capel yn dyfod i edrych am dano weithiau, ac yn dyweyd fod y cwbl er daioni; ond fedrai Robat ddim gwel'd hyny.

"Dyma fi," meddai Robat, "ar fy nghefn er's dros bum' mlynedd, a saith o blant eisieu eu magu. Y mae holl bethau y byd wedi myned oddiwrthyf fel Job. Am beth, tybed? Yr ydwyf yn ddigon hunanol i feddwl