Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nad oeddwn i ddim gwaeth na rhyw greadur arall, ac fella yn well na llawer o rai sydd yn cael iechyd. 'Doeddwn i ddim yn bregethwr nac yn flaenor nac yn ddyn cyhoeddus; ond yr oeddwn yn ceisio gwneyd tipyn o les yn fy ffordd fach fy hun, a phan gawn gyfle i ddyweyd gair da am Iesu Grist wrth rai o'r hogia fydda yn dwad i'r efail—byddwn yn gwneyd hyny. Ond gallasai fod yn llawer gwaeth arnaf. Fe gollodd Job ei anifeiliaid a'i holl dda, a'i blant gyda hyny, ac yr oedd ei wraig eisieu iddo felldithio ei ddydd. Ond dyma mhlant i gen i gyd, ac y mae Elin yma yn gwneyd ei goreu i fy helpu i ddyweyd, 'Dy ewyllys Di a wneler." O gallai, gyfaill, gallasai fod yn llawer gwaeth arnaf. Gogoniant i'r Enw Mawr."