Pan oedd Benja yn ddeuddeg oed cafodd fyn'd efo'i dad i'r chwarel; a buan iawn y daeth yn un o weithwyr goreu y bonc. Erbyn cyrhaedd deunaw oed yr oedd yn glamp o ddyn cryf ac esgyrniog, ac yn enill yr un cyflog a'i dad.
CORNEL Y LON.
Tua haner milldir o'r Bwthyn Gwyn yr oedd bwthyn arall o'r enw uchod, yn yr hwn y preswyliai Dafydd Morus, ei wraig Elin, a'u merch Susan. Hogan bach bert oedd Susan, lygad ddu,—
"Ei boch fel y rhosyn,
A'i gwallt fel y frân."
Yr oedd Benja a Susan wedi chwareu llawer gyda'u gilydd er yn blant ieuainc iawn, ac yn hoff o'u gilydd, a'r hoffder hwnw yn cynyddu fel yr oeddynt hwythau yn myn'd yn hynach. Ond nid Benja oedd yr unig un oedd a'i lygaid ar Susi Cornel y Lon. Yr oedd bachgen o glerc yn y chwarel o'r enw Morgan Jenkins—bachgen o Sir Benfro—tipyn o swell a masher, lled hoff o lymaid a myn'd i Gaernarfon bob Sadwrn i gerdded y tafarnau, ac i ddangos ei hun ar hyd yr heolydd. Ambell nos Sul elai i'r un capel a Benja a Susi, ac yr oedd fwy nag unwaith wedi rhoddi ei hunan yn ffordd yr hogan i gael sgwrs gyda hi.
Ni roddai Susan yr un mymryn o dderbyniad iddo; ond yn hollol i'r gwrthwyneb. Ond yr oedd Morgan yn meddwl y byddai yn sicr o lwyddo cyn hir. Yr oedd yn meddwl fod ei siwt frethyn ef yn sicr o wneyd mwy o argraph na siwt ffistian Benja; ond fel y ceir gwel'd fe fethodd yn fawr yn ei amcan. Ryw noson, fel yr oedd Susan yn dyfod adref o neges o Shop y Bont, pwy ddaeth i'w chyfarfod ond Morgan Jenkins. Gwnaeth ei goreu i'w osgoi, ond heb lwyddo. 'Wel, Miss Morus," meddai Morgan, "dyma fi wedi y'ch cael chi ar ben eich hunan am dro, ac y mae yn rhaid i mi gael cusan genoch chi," ac ymaflodd am dani ac a geisiodd gyrhaedd ei amcan. Gwaeddodd Susi nes yr