Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd ei llais yn adsain trwy'r fro. Cyn iddo lwyddo i gael cusan daeth rhywun o'r tu ol iddo, a rhoddodd y fath glustan i'r gwalch nes yr oedd ar ei hyd ar lawr. Ar ol codi ac ysgwyd ei blu, gwelodd fachgen ieuanc hardd a thalgryf yn sefyll yn ymyl Susan, yn barod i roddi iddo glustan rhif yr ail os oedd eisieu. Ni raid dyweyd mai Benja oedd yr hwn oedd wedi gwneyd i'r Hwntw fesur ei hyd ar y ddaear. All right, Benja," meddai Mr. Jenkins, "cei dalu yn ddrud am hyn eto," ac aeth i ffwrdd yn debyg i gi wedi cael cweir. Er na chafodd Jenkins gusan gan Susi, nis gallaf sicrhau na chafodd Benja fwy nag un cyn cyrhaedd Cornel y Lon.

DIALEDD MORGAN JENKINS.

Yr oedd yn perthyn i'r Bwthyn Gwyn gae bychan lle y porai yr unig fuwch. Ambell dro byddai ysgyfarnog yn talu ymweliad â glaswellt blasus y bwthyn, ac yn amlach fyth byddai pheasants yn crwydro yno o dir boneddwr yn yr ardal. Yr oedd Benja wedi eu gweled lawer gwaith, ond gwyddai yn dda am y canlyniadau pe y byddai iddo gyffwrdd âg un ohonynt. Yr oedd ei dad wedi ei rybuddio lawer gwaith, a dyweyd wrtho os digwyddai rhywbeth i'r game ar eu tir hwy y byddai yn ddrwg iawn arnynt. Ond yr oedd Benja yn fachgen call, ac nid oedd ond eisieu dyweyd unwaith. Yr oedd y tad a'r mab yn hoff dros ben o arddio; ac nid oedd gardd yn yr holl ardaloedd yn debyg i ardd y Bwthyn Gwyn. Yr oedd gan Betsan Tomos darten riwbob o flaen neb o'i chymydogion, ac yr oedd son am winionod William Tomos yn mhell ac yn agos. Ond blinid hwy yn fawr gan adar tuag adeg yr hau, fel y blinir pob garddwr arall. Ar ol d'od adre' o'r chwarel bob nos blinid hwy yn fawr gan yr olygfa ar y dinystr oedd y gelynion asgellog wedi ei wneyd ar eu gwaith. O'r diwedd penderfynwyd cael rhwyd fawr i'w rhoddi dros y gwelyau hadau mân. Felly, Sadwrn setlo, dyma Benja i Gaernarfon i brynu rhwyd—i ryw siop yn Stryd