Llandysilio, a William, ei frawd talentog, yn Lerpwl; John Elias yn Llanfaes; a Owen Thomas yn Lerpwl. Base claddfa genedlaethol yn beth nobl iawn a gwerth myn'd ganoedd o filldiroedd i'w gwel'd. Ond yr ydw i wedi colli y ffordd—dyma beth oedd yn dyfod i fy meddwl pan own i yn Westminster Abbey. Yno hefyd mae cader y coroni, ac yni hi y bu pob brenin a bren— hines yn eista i gael eu coroni, o amser Edward y Cynta i amser Victoria. Ond diar anwyl, ddo i byth i ben.
Aeth Dei a fi i eglwys fawr St. Paul, i wel'd bedda Nelson a Wellington, ac aeth a fi i ben pinacl ucha' y clochdy. Lle braf i wel'd Llundan, a lle doniol i dowlyd eich hunan i lawr dase chi eisio gneyd am danoch eich hun.
Ddiwrnod wed'yn, aeth a fi i Dŵr Llundan. General Rowlands o ymyl Cnarfon ydi y pen yno rwan, ond oedd dim eisio gofyn iddo fo gael myn'd i mewn, ddim ond talu chwechyn bob un. Yno mae llawer o hen arfau rhyfel yn cael eu cadw, ac yno y gwelsom goron y frenhines a'r deyrnwialen aur. Wel, fase siwt o ddillad da yn well i mi tua'r Nant yna na rhyw hen lymbar fel yna, daswn i yn cael cynyg.
Buom yn y Crystal Palas. Bobl anwyl, dyma le ardderchog. Pan es i Bel Viw, Manchester, efo Sal acw, just newydd i ni briodi, on i yn meddwl mai dyma y lle crandia yn y byd, ond ydi o ddim byd wrth y Crystal Palace.
Aethom hefyd i'r Britis Miwseam, lle mae nhw yn cadw un o bob papyr newydd, ac un o bob llyfr ddaeth allan erioed, ac y mae yn eu plith CYMRU O. M. Edwards a'r GENINEN, a chopi o'r rhifyn cyntaf o bob papyr Cymraeg. Ddown i byth i ben i enwi y filfed ran o be sy yn y lle mawr yma. Y pethe gymres i fwya o sylw ohonyn nhw oedd darn o Arch Noah, corph yr hen Pharo a'i bendrulliad, a cyrph llawer ereill. Basai corph Moses yno dase nhw yn cael gafael ynddo fo. Wel yno hefyd y mae y cledda ddaru Dafydd dori pen y cawr efo fo, a dwy o'r ceryg oedd ganddo fo yn i sgrepan,