a darn o olwyn un o gerbyda Pharo gawson nhw yn ngwaelod y Mor Coch; ac yn fwy na'r cwbl, y pysgodyn lyncodd Jona wedi ei stwffio. (Choelia i mo hyny chwaith.) Ond ddo i byth i ben.
Erbyn cyrhaedd y ty login, yr oedd yno lythyr wedi dwad oddiwrth Sara ata i, a dyma fo i chi:—
- "Anwyl Ned,—
"Rodd yn dda ofnatsan gen i glywad fod ti wedi cyradd yna yn saff. Cymer ofal ohonot dy hun, Ned bach, gwilia golli dy hun mewn lle mawr fel yna. Mae Marged y drws nesa yma wedi cael bonat newydd o ryw shiop yn y dre, un grand ofnatsan. Yma ti, Ned anwyl, nei di chwiliad am un i mi yn mhob un o'r shiope yna, riwbeth reit swell, wyddost ti be neiff fy siwtio i, ws ti. Feflat glâs tywyll, a thair pluen goch, nid plu ceiliog ws ti, ond plu estrys. Yr ydw i yn sicr y base ti yn leicio i mi edrach yn o neis, yrwan yr wyt ti yn y sêt fawr. Cofia y tair pluen, Ned, a strings feflat du. Brysia adre, Ned bach, ma arna i hirath am danat ti; fu'm i ddim yn cysgu hebddat ti erioed o'r blaen ar ol priodi. Mae'r plant a fine yn cofio atat ti yn arw iawn. Cofia y tair pluen, Ned.
"SARA."
Ar ol darllen y llythyr, ebra fi wrth Dei,—
Wyddost ti be, Dei, wrth mod i'n cychwyn adra bora 'fory, rhaid i mi fyn'd i chwilio am fonat i Sara y cynta' peth. Ddoi di hefo mi, Dei bach; mae fy Saesneg i mor ddrwg. Byddaf yn gallu trin merched y Nant acw yn iawn, ond y mae arna' i ofn swels shiopa Llundan—mae nhw'n edrach ar eu gilydd ac yn gneyd sport o'r Cymry. Pan eis i brynu y tacla chwara i'r hogia acw yn y stryd hono wrth ymyl y wacs wyrcs, yr oedd yno dair o genod yn gneyd sport am mhen i, a bu agos i mi ro'i clustan i un o ohonyn nhw."