Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nid ydyw yn anmhosibl i'r pedwerydd fyned trwy'r un anrhydedd. Cychwynodd y pedwar un prydnawn Sadwrn yn nghyfeiriad Cerigydruidion, Llangwm, a Rhydlydan. Nid Tymplen oedd y ceffyl y tro hwn, nac ychwaith un o geffylau ereill Rice, ond rhyw "farch plaen," heb fawr o ol "stabl y capel" na cheirch yr achos arno. Fodd bynag, cyn cyrhaedd pen y daith fe gwympodd yr hen geffyl, ac fe fu farw yn y fan, gan "lwyr ddarostwng y gwyr o barch." Yr oedd golwg mwy tebyg arnynt i'r

Boneddwr mawr o'r Bala Ryw ddiwrnod aeth i hela

nag i rai wedi bod yn cyhoeddi Efengyl y tangnefedd. Ond, i dori y stori yn fyr, chwiliwyd am gigydd i flingo y trancedig, a phrydnawn ddydd Llun dyma'r gwŷr o barch yn ol i'r Bala gyda cheffyl benthyg, a chroen yr ymadawedig gyda hwy yn y cerbyd. Ni welwyd angladd mwy difrifol erioed yn dyfod trwy dyrpec isaf y Bala. Fel hyn y canodd bardd anadnabyddus i'r amgylchiad,—

O dref y Bala un prydnawn
Aeth pedwar bachgen doniol iawn,
Ar daith dros ddarn o fynydd mawr,
I draethu am olud uwch na'r llawr.

Canmolent hwy y ceffyl gwiw
Tra'n tynu'r llwyth i fyny'r rhiw,
Er tremio o'i esgyrn arnynt hwy,
Yn hen o ddyddiau, 'n llawn o glwy',

Beth wyddai'r hogiau difarf hyn
Am gaseg nac am geffyl gwyn?
Dim, dim—pregethu oedd eu gwaith,
A gwaeddi am gyrhaedd pen y daith.

Ond Och i chwi! Cyn myn'd yn mhell
Fe gawsant wybod pethau gwell,
Rhoes siampl ddai'r bechgyn blin
Trwy blygu i'r llwch ar ben ei lin.