Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fel gweddai i bechaduriaid mawr
Disgynent hwythau oll i'r llawr,
Just mewn pryd i wel'd y march
Yn barod i'w roddi yn ei arch.

Ar ochr y ffordd fe drengodd, do,
Ac uwch ei ben bu gwaeddi,"Oh!"
Er dychryn mawr, a dirfawr boen,
Ni ddaeth yn ol i'r dref ond croen.

Chwychwi bregethwyr hoenus sydd
Yn gallu llamu fel yr hydd,
Na flinwch hen geffylau'r byd
Am gael eich cario byth o hyd.

Bu cyfnod y ceffylau yn gyfnod llwyddianus a phroffidiol i'r perchenogion, yn fwy o lawer felly nag i'r marchogion. Lawer gwaith byddai mwy o elw yn myn'd i boced y perchenog nag i boced y pregethwr druan. Nid oedd y gydnabyddiaeth lawer tro fawr fwy nag a delid am fenthyg y ceffyl; ac ambell dro, yn sicr, byddai y daith Sabbothol yn dead loss mewn ystyr arianol. Gobeithio nad oedd felly mewn ystyr ysbrydol. Os oedd un pechadur wedi edifarhau, yr oedd llawenydd yn y nefoedd, a gwobr fawr yn aros. Mae pethau wedi newid yn sir Feirionydd a'r siroedd ereill erbyn hyn ; y mae y blaenoriaid wedi dyfod i ddeall na fedr y pregethwyr ddim byw ar y gwynt mwy na rhyw fodau ereill. Ond peidiwn a rhoddi gormod o fai ar y blaenoriaid; os na bydd aelodau yr eglwysi yn cyfranu megis y llwyddo Duw hwynt, nis gallant hwythau dalu i'r pregethwyr. Nid ydyw yr arian yn nghoffr y capel fel y blawd yn y celwrn, nac fel yr olew yn yr ysten, fel y buasai yn dda gan lawer i hen gybyddion crintachlyd iddynt fod.

Nid oedd y ffaith fod myfyrwyr y Bala yn astudio duwinyddiaeth ac ieithoedd meirwon yn un rheswm fod raid iddynt arwain bywyd mynachaidd, gwisgo mewn sach lian a lludw, ac ymprydio dair gwaith yn yr wythnos; er fod llawer ohonynt, fel y mae yn ofidus ac yn