Cymerai Dr. Edwards ei dro, wrth gwrs, a byddai wrth ei fodd yn nghanol yr hen frodyr—hen ddivines y Bala. Buasai cofnodiad o ugeiniau o ddywediadau y Doctor wrth ymddiddan â'r hen frodyr a chwiorydd y blynyddau hyn yn gwneyd un o'r cyfrolau mwyaf gwerthfawr yn ein llenyddiaeth. Gweled eu hunain yn bechaduriaid mawr yr oedd pobl y Bala y dyddiau hyny bron i gyd. "Myfi'r pechadur pena oedd byrdwn pob profiad crefyddol. Cafodd Dr. Edwards lawer o hwyl gydag un hen wreigan o'r enw Marged Wiliam,—hen wraig ddarllengar a deallus. Yr oedd Marged cyn iddi farw wedi darllen ei Beibl dros ddeg ar hugain o weithiau. Yr oedd ganddi gof neillduol, ac arferai adrodd penod o flaen y bregeth yn fynych. Un tro clywais hi yn adrodd penod o flaen Richard Humphreys, Dyffryn, y drydedd benod o Ganiad Solomon,—"Liw nos yn fy ngwely y ceisiais yr hwn a hoffa fy enaid," &c. Adroddai gyda llais clir ac eglur nes gwefreiddio y gynulleidfa. Ond er mor hyddysg yn ei Beibl, "pechadures fawr" oedd Marged Wiliam bob amser. "Beth sydd genoch chi heno, Marged Wiliam," meddai Dr. Parry ryw noson. "Testyn y studen yna bore Sul," meddai Marged, "Gwir yw y gair." "Wel, ydech chi ddim yn meddwl mai chi ydi y pechadur pena?" "Ydw wir, Mr. Parry bach, yr hen galon ddrwg anghrediniol yma, ond waeth gen i befo hi—da i ddim i uffern byth. O naga byth a dawn i'n myn'd ono, mi troen fi allan mewn munud, mi ddechreuwn i ganu am 'waed yr Oen, a fedre Belsebub a'r cythreuliaid ddim diodde hyny." Eisteddai, yn agosaf at Marged, hen chwaer wedi dyfod i'r winllan ar yr unfed awr ar ddeg—hen chwaer anllythrenog a hynod o dywyll. "Wel, hon a hon," meddai Dr. Parry, mae'n debyg eich bod chwithe yn cael eich hun yn gryn bechadures fel Marged Wiliam yma?" "Nag ydyw i'nenw diar, ne be baswn i yn dwad i'r seiat? Roeddwn i yn meddwl mai pobol dduwiol oedd yma gyd." "Wel," meddai Dr. Parry,"yr yden ni yn bechaduriaid bob un ohonom ni sydd yma heno."
Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/74
Gwedd