"Wel daswn i yn gwybod hyny, fase'n well i mi aros lle 'roeddwn i," meddai'r hen wraig. "Wel, wel," meddai Dr. Parry yn siriol, "ydi hi yn amser diweddu, Jacob Jones?"
Heblaw y ddau athraw, cymerid rhan mewn cadw seiat y Bala am flynyddau gan y gŵr hynaws ac efengylaidd Lewis Jones, Llwyneinion, golygydd y cylchgrawn bychan dyddorol Y Geiniogwerth, ac awdwr Oriau Olaf Crist. Yr oedd Lewis Jones yn fab-yn-nghyfraith i Wiliam Edward yr emynwr, ac ychydig fisoedd yn ol bu gan ei ferch, Mrs. Davies, Porthaethwy, ysgrif yn Cymru yn cywiro rhyw gamgymeriad am ei thaid. Cadwr seiat o'r radd uchaf oedd Lewis Jones. Perchid ef yn fawr gan bawb. Bu farw yn gydmarol ieuanc. Yr oedd gwr anwyl arall a wnai ei ran yn seiat y Bala, sef John Thomas, brawd i'r Parchedigion William Thomas, Beaumaris; a Dr. H. E. Thomas (Huwco Meirion), Pittsburg, Amerig. Dyn addfwyn a thawel oedd John Thomas. Ni chyrhaeddodd ef mwy na Robet Thomas, Llidiardau, y sefyllfa sydd yn rhoddi hawl i bregethwr wisgo cadach gwyn, ac yr oedd Cyfarfod Misol sir Feirionydd i'w feio yn hyn o beth. Ond os nad oedd y Cyfarfod Misol wedi rhoddi "Parch" iddo, fe'i perchid gan bawb a'i hadnabai, ac yr oedd yn bregethwr cymeradwy.
X. ROBERT SAUNDERSON.
Dyma wr a wnaeth wasanaeth i Gymru yn mlynyddoedd cyntaf y ganrif hon. Yn y flwyddyn 1801 daeth gŵr ieuanc o'r enw Robert Saunderson i'r Bala ar wahoddiad y Parchedig Thomas Charles, o fendigedig goffadwriaeth. Tua yr un adeg, meddir, y daeth Mr. Gee (tad yr hybarch Thomas Gee presenol) i Ddinbych; ac oddeutu yr un flwyddyn hefyd y daeth Mr. Brown i Fangor. Gwnaeth y tri wŷr hyn wasanaeth ardderchog i wlad eu mabwysiad, a bydd son am danynt tra y bydd hen iaith y Cymry yn fyw—yr hyn sydd yr un peth a dweyd diwedd y byd.