fod fy arwr wedi cael ei droi allan o gynrychiolaeth Manchester, a hyny am siarad yn erbyn rhyfel a thywallt gwaed y Crimea.
Yn fuan wedi hyn, ymadewais o Gymru i un o drefydd Lloegr, a chefais gyfle i ddarllen y papyrau dyddiol; ac os gwelwn rywbeth am John Bright, mi a'i darllenwn o'i ddechreu i'w ddiwedd, deall neu beidio. Wedi hyny symudais i Fanchester, ac yr oedd awydd cryf arnaf am gael un golwg ar wyneb fy arwr. Un boreu, fel yr oeddwn yn cerdded i lawr Market Street, pwy welwn yn dyfod i fyny yr heol ond John Bright. Yr oedd yn anmhosibl peidio ei adnabod ar ol unwaith gwel'd ei lun. Gwaith hawdd fuasai ei bigo allan o ganol deng mil o bobl, yn enwedig i un oedd yn meddwl cymaint ohono ag yr oeddwn i. Wel, yr oeddwn wedi gwel'd y "great tribune;" ond nid oedd hyny yn ddigon, yr oedd yn rhaid cael ei glywed yn siarad,—yr oedd yn rhaid cael clywed y llais melodaidd a swynol oedd wedi gwefreiddio canoedd o filoedd o bobl yn ystod ymgyrch fawr Deddfau yr Yd. A daeth y cyfle cyn rhyw hir iawn. Yr oedd Mr. Bright i gymeryd rhan mewn cyfarfod mawr yn y Free Trade Hall ryw noson, a phenderfynais y mynwn ei glywed. Hwn oedd y tro cyntaf iddo ymddangos ar lwyfan cyhoeddus yn Manchester ar ol cael ei droi allan yn etholiad 1858. Yr oedd prif ddinas y cotwm wedi edifarhau mewn sachlian a lludw er's llawer dydd. Wel, noson y cyfarfod a ddaeth, ac oriau cyn dechreu cefais fy hun yn nghanol torf o ugeiniau o filoedd, a phawb ar yr un neges a minau. Lle i ryw chwe mil sydd yn neuadd fawr y Free Trade Hall; ond yr oedd dros gan' mil yn yr heol. Fodd bynag, rhyw ddwy awr cyn dechreu y cyfarfod, cefais fy hunan rhwng byw a marw yn eistedd mewn sedd gyfleus i wrando ar arwr y cyfarfod. Dyma hi yn saith o'r gloch o'r diwedd, a dyma rhyw gynhwrf yn ymyl y fynedfa i'r esgynlawr. Y mae llygaid y miloedd yn cyfeirio i'r un pwynt. Dyna ben gwyn patriarchaidd yn ymddangos—pen mawr a gwyneb crwn rhadlon.