Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pwy ydyw? 'Does dim eisieu gofyn; dyna John Bright, yr hwn y mae ei enw yn fendigedig yn mhob bwthyn yn y deyrnas am roddi iddynt dorth fawr o fara iachusol ar eu byrddau bɔb dydd. Y mae yr organ ardderchog yn taro y dôn," Yr Hen Amser Gynt," ac wedi hyny

Johnny comes marching home again,

ac y mae yr holl filoedd ar eu traed yn uno yn y gân gyda theimladau gorfoleddus. Y mae yr hen wron yn sefyll ar yr esgynlawr, a'i het fawr yn ei law; ei wyneb yn welw, a'r dagrau yn rhedeg ar hyd ei ruddiau. Nis gŵyr neb ond ef ei hunan, a'r Hwn sydd yn gwybod pobpeth, beth ydyw y teimladau sydd yn llanw ei fynwes y mynudau hyn. Nid anghofiaf byth mo'r olygfa. Ar ol cael tawelwch, cawsom anerchiad dyddorol ganddo yn ei ddull mwyaf hapus. Cefais y fraint o wrando arno lawer tro ar ol hyn. Ond nid oeddwn yn foddlawn ar hyn eto heb gael ymgom gydag ef. Ond pa fodd i gyrhaedd y fath uchelgais i fodolyn dinod? Wel, daeth hyny hefyd oddiamgylch yn ei amser priodol, a cheisiaf adrodd yr hanes mor gywir ag y gallaf ar ol rhai blynyddoedd o amser.

Yn Ngwanwyn 1885, dygodd amgylchiadau Rhagluniaeth fi i'r Hydropathic Institution, Llandudno, i fyned o dan y driniaeth ddyfrol. Bu'm yno am rai wythnosau, ac yn ystod fy arosiad daethum i gyfarfyddiad â Mr. Bright. Fel y gwyr y darllenydd, arferai efe fyn'd i Landudno bob dechreu haf, ac arhosai yn y George Hotel. Yr oedd yn hynod o hoff o Turkish Bath, ac ymwelai bron bob dydd â'r Hydro i fyned trwy yr oruchwyliaeth. Yr oedd tri o'r gloch yn awr fanteisiol iddo gael yr ystafell "chwysyddol" iddo ei hunan, gan mai un ar ddeg a phump oedd oriau arferol y rhai arhosent yn y sefydliad. Yr oeddwn wedi sylwi ar y gwleidyddwr enwog aml dro yn dyfod am dri o'r gloch, ac yr oedd awydd angerddol ynof am gael ymgom gydag ef, os gallwn wneyd hyny heb beri unrhyw