Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dramgwydd neu anghysur iddo. Dywedais fy nymuniad wrth Dr. Thomas, meddyg ac arolygydd y sefydliad, a rhoddodd yntau i mi ganiatad i fyned i'r bath am dri o'r gloch. "Ond," meddai, "os ydych am gael ymgom gyda Mr. Bright, peidiwch a forcio ymddiddan arno; gadewch iddo ef siarad yn gyntaf." Felly fu; aethum i lawr. Yr oeddwn yn digwydd bod yn dra phoenus y diwrnod hwnw, fel yr oedd yn rhaid i un o'r gwasanaethyddion fy helpio i'r ystafell boeth, a'm gosod i orwedd ar y fainc bren. Yr oedd Mr. Bright yno o'm blaen, a gorweddai ar fy nghyfer. Edrychai arnaf yn dosturiol, a dywedai, "Yr ydych mewn poen mawr, beth ydyw eich afiechyd?" Dywedais inau mai y cryd cymalau. Dyna yr holl sgwrs y diwrnod cyntaf. Pan aeth i'r ystafell arall, gofynai i'r ystafellydd pwy oeddwn, o b'le

deuwn, a beth oedd fy ngalwedigaeth? Dywedodd Frank, y bathman, wrthyf wed'yn, "Yr oedd yr hen wr yn holi am danoch fel pe dase fo yn myn'd i ysgrifenu hanes eich bywyd; mae o wedi myn'd yn hynod blentynaidd, ac eisieu gwybod hanes pawb." Yr ail ddydd, pan gymerais fy lle yn y bath, yr oedd Mr. Bright yno, a gofynodd yn siriol, "Ydech chi yn llai poenus heddyw? O Gaernarfon yr ydech chi yn dyfod oni tê? Hen dref ddyddorol ydyw eich tref chwi, ac yr ydych yn gryn Radicals acw. "Wel, wn i ddim am hyny, Mr. Bright," meddwn inau, "y mae y mwyafrif mawr ohonom yn Ymneillduwyr, ond wn i ddim beth am ein Radicaliaeth. Yr wyf yn tueddu i feddwl fod y pleidiau yn lled gyfartal." "Beth ydech chi'n feddwl acw of Fesur Claddu Mr. Osborne Morgan, Mr. Jones; ydi o yn dyfod i fyny a'ch dymuniadau? Wel, nac ydyw, syr, mae llawer o bethau ynddo eisieu eu newid." "Wel, beth ydi un ohonynt?" "Wel, syr, ni fu'm i ond mewn un cynhebrwng o dan y Drefn Newydd, ac yr oedd hwnw yn ddiwrnod oer a gwlyb, cefais i a llawer ereill ein gwlychu at ein crwyn wrth sefyll allan tra yr oedd yr hen Eglwys o fewn ychydig latheni i ni, ond nid oedd genym hawl i gynhal y gwasanaeth