Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ynddi heb fyn'd a'r person gyda ni." Ar hyn chwarddodd yr hen wr yn galonog, a sylwai :—" Mae'n debyg mai effaith y gwlychu y diwrnod hwnw ydyw y cryd cymalau, ac felly y mae yn rhaid i chwi ddiolch i Mr. Osborne Morgan am eich anhwyldeb." "O, nage, syr; buasai Mr. Osborne Morgan yn ddigon parod i ni gael myn'd i'r Eglwys i gynhal y gwasanaeth, ond y Toriaid a'r Arglwyddi oedd yn erbyn." "Wel, na hidiwch, Mr. Jones; mae Dadgysylltiad yn Nghymru yn sicr o ddyfod, er gwaethaf y Toriaid a'r Arglwyddi. Ond y mae'n rhaid i chwi gynhyrfu y wlad ben bwy gilydd, a gwylio eich cyfle, pan y bydd pleidlais Cymru yn rym nerthol yn Nhy y Cyffredin. Fy marn i ydyw mai Eglwys Ysgotland fydd raid fyn'd gyntaf, ac wedi hyny yr Eglwys yn Nghymru. Efallai fy mod yn methu." Mae'n debyg pe buasai Mr. Bright yn fyw y dyddiau hyn y buasai wedi newid ei feddwl.

Yr oedd Mr. Bright yn myn'd yn fwy rhydd bob dydd fel yr oeddym yn dyfod yn fwy cydnabyddus, a ninau yn gofalu peidio cymeryd mantais o hyny i'w dynu allan. Yn ystod y dyddiau hyny yr oedd Mr. J. L. Bright yn anerch cyfarfodydd yn Stoke, gyda'r amcan o ymgeisio am y sedd yn yr etholiad cyffredinol oedd wrth y drws. Y peth cyntaf a ofynodd Mr. Bright i mi un prydnawn oedd, "A welsoch chwi y Liverpool Daily Post heddyw, Mr. Jones? "Do syr," meddwn inau. "A welsoch chwi araeth fy mab yn Stoke ar helynt yr Aipht; beth oeddych chwi yn feddwl o gymhariaeth y coginydd?" "Do syr, mi gwelais hi, a meddwl yr oeddwn i y dywed llawer o bobl mai chwi wnaeth yr araeth, mae mor debyg i chwi." "Tybed, tybed," meddai yntau dan chwerthin.

Yn ystod y dyddiau yr oedd yr ymddiddanion hyn yn cymeryd lle, digwyddodd tro lled ryfedd. Derbyniais barsel oddiwrth gyfaill, a hwnw wedi ei lapio mewn dalen o'r Times am y flwyddyn 1845. Yn y darn o'r papyr yr oedd un o areithiau mawr Mr. Bright yn Nhy y Cyffredin ar y "Mesur Helwriaeth." Adroddais y