Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

felly gan bawb. Ond y mae pethau wedi newid llawer erbyn hyn; ac y mae cynnulliadau cyffelyb wedi lluosogi yn mhob gwlad. Yr oedd enw JOHN ELIAS bob amser mewn cyssylltiad anysgaradwy â'r gymmanfa. Efe oedd bywyd ac enaid y cyfarfod, yn enwedig yn y Gogledd—pa un bynag ai yn ei wlad ei hun ai mewn rhyw fan arall y byddai. O blegid hyn, y mae mor ofynol i'r genedlaeth ieuanc wybod rhyw beth am ansawdd y sasiwn ag am ddoniau arbenig ELIAS, er gallu ffurfio dychymyg lled agos am yr effeithiau hynod a gynnyrchid gan ei bresennoldeb. Y mae yn ofynol cael y ddalen wen i dynu yr ardeb arno, cyn y gellir gweled y llinellau gwreiddiol :-y mae yn llawn mor ofynol cael y sasiwn er arddangos rhagoriaethau yr areithiwr hyawdl y cyfeiriwn ato. Rhaid dangos y dadleuwr yn y llys; rhaid dangos y cadfridog ar y maes; a rhaid dangos ELIAS yn y gymmanfa! Y mae rhai nodiadau achlysurol ar y cynnulliadau hyn wedi eu gwneyd yn yr erthyglau; ond efallai er mwyn yr ieuainc, na welsant erioed mo'r sasiwn yn nghyfnod ei hynodrwydd, na byddai yn anmhriodol gosod rhai cofnodau cyffredinol yma ger bron.

Yr oedd y gymdeithasfa yn ŵyl flyneddol yn yr holl wlad, ac yn enwedig yn nghyrau gorllewinol Gwynedd. Y person mwyaf cyhoeddus ar yr esgynlawr oedd gwrthddrych ein Hadgofion. Dysgwylid, cynllunid, ac ymddyddenid llawer am y sasiwn, yn mhob man drwy y cymmydogaethau, wythnosau cyn ei dyfod. Croesawid yr "uchel ŵyl gyfarfod " â "henffych well, fore dedwydd!" dymmor maith yn mlaen. Mynych y clywid gofyn "Pwy sydd yn dyfod i'r wlad eleni?" "A oes rhai o gawri y Deheudir yn dyfod i ymweled â ni y flwyddyn hon?" Yr oedd tinc uchel yn yr ymadrodd "gŵr dyeithr o'r Deheudir," y pryd hwnw. "A ydyw John Evans o'r New Inn, yn dyfod?" "A oes dim gobaith am gael gweled Ebenezer a Tommy Richards eleni?" "Ai tybed na ddaw o, Ebenezer Morris, ddim atom y tro yma: y mae hi yn gryn bum mlynedd er pan y bu?" "A oes dim son am