Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ANERCHIAD.

Ni amcenir i'r anerchiad hwn fod yn rhagymadrodd, yn ol dull cyffredin rhaglithiau, ond yn hytrach fel ychydig o nodiadau arweiniol. Y mae i bregethu yn mysg y Cymry ei nodweddau arbenig. Y mae y pulpud Cymraeg yn sefyll yn hollol ar wahan oddi wrth eiddo pob cenedl arall. Y mae iddo gymmeriad priodol iddo ei hun yn unig. Ni all Cymro wir fwynhau y weinidogaeth efengylaidd, os na bydd yn cael ei "llefaru yn ei iaith ei hun, yn yr hon y ganed ef," gan nad pa mor drwyadl y byddo yn deall iaith arall. Fel eglurhâd o hyn, gellid cyfeirio at ein cydwladwyr sydd yn preswylio yn nhrefydd Lloegr. Iaith eu masnach hwy dros ddyddiau yr wythnos yw y Seisoneg, ond iaith eu haddoliad ar y Sabbath yw y Gymraeg; y fwyaf hwylus ganddynt at ffugrau yn y cyfrifdai gydag achosion y bywyd hwn, at wasanaeth y pen a'r deall, ydyw iaith y Seison; ond y fwyaf priodol at gyrhaedd y serch a'r teimlad yw hen iaith eu gwlad. Y mae rhyw linynau tyner yn y galon Gymreig sydd yn ateb yn union i seiniau hon, na chynhyrfir mo honynt byth gan un arall. Efallai y byddai yn anhawdd darlunio hyn, a dichon y byddai yn anhawdd gan estron ei gredu: ond gŵyr pob Cymro trwy brofiad ei fod yn wirionedd.

Y mae arferion yn newid llawer gydag amser. Y mae llawer o wisg y pregethu Cymraeg wedi newid er ys ychydig dymmor yn ol, ond y mae ei ysbryd yn aros eto yr un. Deng mlynedd ar ugain yn ol, y cyfarfod mwyaf dyddorol yn Nghymru oedd y gymmanfa, neu y "sasiwn," fel ei gelwid. Yr oedd yn gyfarfod cenedlaethol yn ystyr mwyaf priodol y gair; ac efallai nad oedd un cynnulliad arall a gydnabyddid