Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yma y cawn ef yn ysgrifenydd lled fanwl. Eto, nid yn hyn yr oedd yn rhagori. Nid yma yr oedd tŵr ei arfogaeth. Gwyddai yn dda am y perygl o niweidio ei hyawdledd drwy gyflwyno manylion ei olrheiniadau ysgrifenedig i'w gof; ac eto, gwyddai gymmaint am werth cywirdeb, fel y byddai yn ddigon gofalus i gofnodi pob peth oedd wir angenrheidiol. Dichon iddo fod yn esgeulus o ysgrifenu ei gyfansoddiadau yn nechreu ei yrfa weinidogaethol, gan rym angerddol ei hyawdledd, a thybied pe buasai yn cyfyngu ei hun at gofnodau mewn ysgrifen, na buasai yn ddim amgen na dyn yn cerdded ar dudfachau; ac er bod yn dalach na neb, ac yn uwch na phawb, na allai deithio fawr yn mlaen, heb law bod mewn perygl o gwympo ar yr heol bob mynyd awr.

Yma yr ydym yn ei gael yn gryf mewn gweddi. Cyfeiriwyd mewn adgofion blaenorol at rai amgylchiadau a'i profodd yn ŵr gafaelgar a nerthol wrth yr orsedd; a dichon mai yma y cawn yr eglurhâd ar yr holl ddirgelwch hwnw. Y nerth oedd ef yn ei gasglu yn y dirgel oedd yn dyfod i'r amlwg yn y cyhoedd. Yr oedd hyn fel eneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnw ar bob talent a feddai. Yr oedd ei ysbryd gweddi yn dwyn holl wrthddrychau ei fyfyrdod i wir eglurdeb yn ei feddwl, yn nerthu ei ymroddiad i'r gwaith, yn puro ei chwaeth gyssegredig, yn bywiogi ei ysbryd tanllyd, ac yn rhoddi pwysigrwydd difrifol yn ei holl lafur. Yr oedd fel perarogl ar ei dduwiolfrydedd, ac yn codi ei feddwl i deimladau dyrchafedig, ac yn gwneyd ei ysbryd yn fwy cyflwynadwy i'w wrandawyr. Dyma lle yr oedd y callestr yn dyfod i'r tarawiad cyntaf â'r dûr, i gynnyrchu y wreichionen, a ennynai yn fflam dân ac a oddeithiai yn olosg ysol, i'w wasgaru dros gynnulleidfaoedd lluosog ar unwaith, nes y byddai pob calon yn gwir deimlo gan y gwres. Dichon mai hyn oedd cyfrinach y gwreiddioldeb oedd yn ei bregethau. Sonir llawer am wreiddioldeb yn mhlith dynion; ond efallai mai ychydig o hwnw sydd i'w gael mewn gwirionedd allan o gloriau yr Ysgrythyr pa fodd bynag am hyny, yr oedd y bywiogrwydd, y nerth, a'r dylanwad oedd yn ei weinyddiadau ef, yn gosod argraff o wreiddioldeb ar ei holl anerchiadau i'r tyrfaoedd oedd yn ei wrandaw ar bob pryd. Yr oedd ef yn gwneyd perffaith