Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwareu teg â'i bregethau, drwy eu cyfeirio yn mhob modd at yr amcan mawr oedd ganddo yn ei genadwri. Yr oedd ganddo neges arbenig, a chenadwri benodol, at ei wrandawyr bob pryd. Nid gollwng saethau ar antur y byddai; ond yr oedd ganddo ei nod yn wastadol, ac yr oedd yn dra sicr o'i gyrhaedd.

Ni ddeuai byth o'i fyfyrgell nes bod yn barod at ei waith. Yr oedd ganddo ei ddyddiau a'i oriau penodol i ymneillduo i ymbarotoi at ei lafur cyhoeddus; ac nid yn hawdd y goddefai i neb ei aflonyddu na'i godi o'i ystafell ar y pryd. A diau na allasai byth ddyfod i ben âg anturiaethau mor eang ag a fyddai raid iddo ymgymmeryd â hwy, heb ryw reol sefydlog iddo ei hun, yr hon ni chiliai oddi wrthi. Ni chlywid ganddo byth bregeth â'i chyfansoddiad yn dangos arwyddion o fusgrellni, na difaterwch, na brys. Yr oedd y cyfan yn ddarnau gorphenedig, ac wedi eu puro yn y ffwrn seithwaith." Yr oedd ei amcan ar bob achlysur at fod yn weithiwr difefl, ac felly i iawn gyfranu gair y gwirionedd. Yr oedd dyben pregethu, iddo ef, yn rheol dull ei bregethu. Yr oedd ei iaith yn gref, a'i fater yn dda. Nid oedd byth yn gorlwytho ei ymadroddion â geiriau hirion; yr oedd ei nod i effeithio ar y gydwybod, i gyffroi y galon, ac i ddiwygio y bywyd. Myfyriai nes yr ennynai tân, ac yna y llefarai â'i dafod. Yr oedd hyn yn rhoddi ysbryd y peth byw ynddynt.

Yr oedd dylanwad ei ymbarotoad yn ei efrydfa ar gyfer ei lafur cyhoeddus yn hawdd iawn i'w ddarllen yn ei wynebpryd, pan y byddai mewn oedfa ar gyfodi i fyny at y ddesc i bregethu. Byddai teimladau ei feddwl yn fynych yn neidio i'w wedd, a byddai weithiau fel pe buasai yn mron a methu ymattal. Gwelwyd ef rai troion dan deimladau y buasai y darluniad a wnai Elihu o hono ei hun yn dra phriodol i'w gymhwyso ato ef. Ei feddwl yn cynneu ac yn ennyn, ac yntau yn mron tori allan i ddywedyd, "Y mae ysbryd mewn dyn, ac ysbrydoliaeth yr Hollalluog sydd yn peri iddo ddeall......gwrandewch fi; minnau a ddangosaf fy meddwl......minnau a atebaf fy rhan. Canys yr ydwyf yn llawn geiriau; y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymhell i. Y mae fy mol fel gwin nid agorid arno; y mae efe yn