PENNOD XI
JOHN ELIAS, WILLIAMS O'R WERN, A CHRISTMAS EVANS.
Y MAE ein gwlad ni, yn ystod yr hanner canrif diweddaf wedi cynnyrchu pregethwyr a duwinyddion o enwogrwydd mawr:—dynion a adawsant argraffiadau o'u dylanwad ar gymmeriad cyhoeddus y genedl; dynion a siglasant y Dywysogaeth o'r naill gwr i'r llall, ac a gyfodasant filoedd i wrandaw gair y bywyd, y rhai oedd yn aros yn y fath ddifaterwch, fel nad oedd dim llai na chynhyrfiad tebyg i ddaiargryn a fuasai yn eu symmud ac yn eu codi allan o'u hanneddau. Buont o wasanaeth mawr i achos crefydd yn gyffredinol yn ein gwlad. Yr oedd rhai o honynt yn tra rhagori ar y lleill mewn amryw ystyriaethau. Nid yr un nifer o dalentau oedd wedi eu hymddiried i holl "werthfawr feibion Lefi;" ac nid oedd eu rhagoriaethau yn rhedeg yn yr un ffordd. Yr oedd rhai yn fwy amlwg nag ereill yn y naill beth neu y llall; ond yr oeddynt oll yn angenrheidiol er gwasanaethu yr achos mawr. Yr oedd rhai mor amlwg a'r llaw a'r llygad yn y corff, tra yr oedd yr aelodau a dybir eu bod yn wanaf oll yn ateb dyben pwysig yn eu lle. Yr oedd gan yr apostolion gynt eu trioedd," sef "Iago, a Cephas, ac Ioan—y rhai a dybid eu bod yn golofnau." Felly yr oedd gan y Dywysogaeth ei thrioedd; sef, JOHN ELIAS, WILLIAMS O'R WERN, a CHRISTMAS EVANS—y rhai a dybid eu bod yn golofnau yn yr eglwysi Cymreig. Yr oeddynt yn sefyll fel temlau ar wahân oddi wrth yr holl adeiladau ereill, ac yn saethu eu pinaclau i'r cymylau mor uchel fel nad oedd modd methu eu hadnabod. O blegid hyn, nid ydym yn ystyried ein hunain dan rwymau i wneyd un math o esgusodiad am y detholiad a wnawn o honynt fel y cyfryw. Hwy oedd "tri chedyrn Cymru" yn marn y cyhoedd. Yr oedd eu henwau fel "household words pan elent allan i daith ar gyhoeddiad, yn mhob cymmydogaeth trwy Ddeheu a Gogledd. I ba le bynag yr elent i bregethu ar unrhyw dymmor o'r flwyddyn, ac ar unrhyw awr o'r