Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dydd, yr oedd yn ddigon i greu gwyl gyffredinol yno—ie hyd yn oed pe buasai yn ganol cynauaf y gwenith; a byddai raid i bawb, o bob gradd ac oed, gael eu rhyddid am y tro i fyned i wrandaw arnynt. Yr oedd y tri fel rhyw Sauliaid, yn uwch o'u hysgwyddau i fyny na phawb eraill; ac ni chyrhaeddodd neb ar eu hol i'r fath ddylanwad ar y cyffredin a hwy yn ein gwlad ni. Yr oedd gan y tri eu gwahanol dyrau, eu gwahanol lurigau, eu gwahanol arfogaeth, a'u gwahanol ddoniau. Ni allasai y naill wisgo arfbeisiau y llall; ni allasai y naill dynu yn mwa y llall: yr oedd cuddiad cryfder pob un mewn gwahanol fanau. Oud yr oedd pob un o honynt yn sicr o'i nôd; annelent i drwch y blewyn; ni ollyngent byth saeth heb iddi gyrhaedd ei phwynt; nid oeddynt byth yn llafurio yn ofer nac am ddim. Yr oedd eu cyd—gyhoeddusrwydd yn cyssylltu eu henwau rywfodd yn mhob achos cyhoeddus gyda phethau crefyddol. Atolwg, gan hyny, onid yw yn naturiol i ni ofyn, Yn mha le yr oedd dirgelwch eu rhagoriaethau? Yn mha fan yr oedd cuddiad eu cryfder? Yn mha beth yr oedd nerth eu dylanwad yn gynnwysedig? Wel, ni a wrandawn ar y tri; canys dyna y ffordd oreu i gael yr atebiad boddhaol i'r ymofyniadau hyn. Ni a edrychwn beth a wnaeth pob un o honynt; ni a osodwn anghraifft o bob un o honynt ger bron; ac ni a ymdrechwn dynu y casgliadau priodol mewn canlyniad. Y mae y bywgraffiad goreu o bob dyn i'w gael yn y peth ydoedd, ac yn yr hyn a wnaeth. Gwneir cofiantan i fyny yn fynych o ddychymygion am y pethau a allasai dynion fod, neu a allasent eu gwneuthur; a hyny efallai, weithiau, o herwydd prinder defnyddiau o ddim dyddordeb. Ond nid felly y mae wrth gyfeirio at "dri chedyrn Cymru:" mae yr anghreifftiau mor lucsog gyda hwy, fel y mae yn anhawdd gwybod pa rai i'w dewis gyntaf.

Yr oedd Elias yn rhagori yn ystôr ddirfawr ei wybodaeth dduwinyddol, eangder ei gof anfesurol, a nerth ei hyawdledd naturiol dihafal. Yr oedd Williams yn rhagori yn ei adnabyddiaeth o natur, ei fedr i osod pethau agos mewn effeithioldeb dyddorol ger bron, a'i berffaith feistrolaeth ar deimladau ei wrandawyr. Yr oedd Evans yn rhagori yn uchder ei ddarfelydd awenyddol, yn llawnder ei gymhar-