Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaethau naturiol, yn melusder ei ddawn, ac yn arabedd ei ymadroddion. Ystordy eang, gorlawn o holl geinion a thrysorau y byd, oedd Elias!—yr arddangosfa fawr ydoedd! —y palas grisial ydoedd! Gweithfa Watt a Stephenson oedd Williams, lle yr oedd elfenau a defnyddiau natur yn cael eu dwyn i ddylanwad ymarferol y naill ar y llall; lle yr oedd holl ddirgelwch dylanwadau yr ager a'r trydan yn cael eu dangos yn syml ger bron y cyffredin mewn gweithrediad! Awyren Green oedd Evans, wedi ei gwisgo â'r pali symmudliw; darfelydd a dychymygiaeth yn hofiau yn ddifyrus yn yr wybren, gan chwareu yn hyfryd o amgylch, a thywallt y miwsig mwyaf soniarus i ddisgyn ar ein clustiau o'r nen! Yr oedd yn anhawdd i'r edrychydd wrth basio wybod gyferbyn a pha un o honynt i aros hwyaf, i syllu a rhyfeddu, a mawrhau! Yr oedd gan y genedl ei chlychau suddol hefyd, a fedrent dreiddio i waelodion isaf yr eigion du, nes taraw pawb â syndod, er eu bod hwy eu hunain yn colli allan o'r golwg. Ond gan mai nid â'r dyfnderoedd allan o'r golwg yr oedd y cyffredin yn ymdeimlo fwyaf, nid oeddynt yn eu gweled hwy yn cyrhaedd dosbarth y trioedd. Felly, safai y cewri hyn, rywfodd neu gilydd, ar wahân, yn uwch na phawb; ac nid oedd modd gosod neb arall i eistedd yn gyfochrog â hwy.

Yr ydym wedi gosod angnreifftiau o Elias ger bron yn barod, fel mai afreidiol fyddai chwanegu, er y gellid eu lluosogi i swm cyfrol fawr. Yr oedd efe yn dra hoff o olyg iadau duwinyddol yr hen awdwyr Puritanaidd. Ei arwyddair oedd, "Yr hen dduwinyddion, a'r athronwyr diweddar." Yr oedd o'r farn na chafodd neb fwy o feddwl yr Arglwydd ar ol yr oes apostolaidd na'r Doctor Owen a'r President Edwards. Yr oedd wedi darllen yr holl weithiau boreuol yn fanwl iawn. Yr oedd yr holl esboniadau "uniawngred" wedi eu crynoi yn ei feddwl. Gallasai gyfeirio, ar unrhyw bryd, at eu syniadau ar unrhyw bwnc. Yr oedd ganddo fath o ddrwgdybiaeth am iachusrwydd golygiadau yr holl awdwyr diweddar, gydag ychydig iawn o eithradau; ac yr oedd hyn yn peri iddo fawrhau y rhai boreuol yn fwy. Yr oedd holl resymau ac eglurhadau y cyfan ar ei gof, ac at ei alwad. Nid ydym yn golygu wrth hyn, mai byw ar eiddo