Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ereill yr oedd efe. O! na: yr oedd wedi moldio eu holl olrheiniadau yn ei feddwl ei hun. A phan y meddyliwn fod ei enaid mor gyfoethog o feddyliau, a'i ysbryd mor ddiorphwys mewn llafur, a'i ddawn areithyddol mor ddigyffelyb mewn dylanwad, nid rhyfedd oedd ei fod yn rhagori cymmaint fel pregethwr ar bawb, o bob gwlad, gan nad pa un ai Cymro ai Sais a fyddai. Yr oedd ei fedr i ddwyn gwirionedd i orphwys ar deimladau ei wrandawyr yn rhyfeddol iawn. Dywedir fod "gwybodaeth yn allu," a diau mai felly y mae: ond pa fodd bynag am hyny, nid oedd neb a wrandawai weinidogaeth Elias heb deimlo fod "gwirionedd yn allu "—ïe, yn allu Duw er iachawdwriaeth. Os byddai yn gollwng allan ambell air heb fod yn hollol goethedig, nid oedd i ddim ond i dynhau llinyn y bwa yn gynt; os gollyngai ambell ymadrodd heb fod yn holiol yn ol deddfau caethaf cyfansoddiad, nid oedd i ddim ond i gael gafael ar y gydwybod yn fwy effeithiol; os byddai ganddo ambell gymhariaeth heb fod yn gwbl yn ol rheolau cyfyngaf cyfatebiaeth, nid oedd i ddim ond i flaenllymu y saeth yn fwy miniog; os byddai rhywbeth tebyg i hanner attal-dywedyd arno weithiau, nid oedd i ddim ond i wneyd ei hyawdledd tanllyd yn fwy effeithiol. Yr oedd pob peth a fyddai ganddo mewn testyn, mewn athrawiaeth, mewn traddodiad, mewn ysbryd, ac mewn amcan, yn sicr o ateb y dyben fyddai ganddo ef mewn golwg. Byddai pob peth a wnai wedi ei gymhwyso a'i gynhyrfu, i aflonyddu, i ddeffro, i oleuo, i ddarbwyllo, i argyhoeddi, i ennill, ac i gaethiwo pob meddwl a fyddai ger ei fron. Byddai ei saethau bob amser wedi eu gloewi a'u llathru, drwy ymarferiad yn ei brofiad ei hun. Nid pigo saethau oddi yma a thraw, wedi syrthio o gawell un arall, y byddai; ond defnyddio rhai newydd, wedi eu hawchlymu yn ei brofiad ei hun, a'u tymmeru yn ngwaed ei galon ei hun.

Bellach, ni a gyfeiriwn at un anghraifft o Williams ac Evans, er mwyn dangos y modd yr oedd cryfder y tri yn gwahaniaethu oddi wrth eu gilydd.

Yr oedd Williams wedi troi ei feddwl i fyfyrio ar natur, ac olrhain egwyddorion athronyddol, a gwir achos pob peth, a hyny mewn rhyw ddull cartrefol ac agos iawn. Os dyg-