Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nid äi byth i ddirdynu; ond rhoddai i fynu ar fyrder: ni fynai orweithio mewn gorchest byth. Ond pan y daeth i addfedrwydd ei weinidogaeth, yr oedd bob amser yn deall ei bwnc, yn adnabod ei sefyllfa, ac yn sicr o'i nôd!

Yr oedd Evans yn hynod am uchder ei ddychymygiaeth. Yr oedd yn llawn o ysbryd barddoniaeth, er nad oedd yn ymddilladu yn y wisg farddonol. Gallai chwareu ar gymhariaethau a ffugrau mewn araeth ddilynol, a hyny mewn ffrydlif diorphwys o'r hyawdledd mwyaf swynol, am chwarter awr cyn cael y full stop. Pan y deuai i uchder eithaf ei wres araethyddol, yr oedd ei fynweslais soniarus, yn rhoddi adgyfnerthiad i'w effeithioldeb ar glustiau ei wrandawyr. Yr oedd ei ffugrau yn hollol neillduol iddo ei hun. Pan yr oedd yn pregethu mewn cymmanfa―ar y geiriau "Gan ddileu ysgrifen-law yr ordeiniadau, yr hon oedd i'n herbyn ni; yr hon oedd yn ngwrthwyneb i ni, ac a'i cymmerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes; gan ysbeilio y tywysogaethau a'r awdurdodau, efe a'u harddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi"—yr oedd Stanley o Alderley newydd lwyddo i gael symmud ymaith y tollbyrth oddi ar yr hen brif-ffordd yn Môn, ac yr oedd yno le hynod i'w ddarfelydd chwareus ehedeg yn ei helfen wrth ddarlunio yr amgylchiad. "Daeth Stanley allan," meddai efe, "yn ei holl rym; ac âg un araeth, efe a symmudodd yr hen dollbyrth ymaith i gyd oddi ar yr hen brif-ffordd yn Môn yma. Aeth at y porth yn ei gerbyd, a gwaeddai ar y porthor, Open the gates! 'Pa le mae y tâl?' meddai y porthor. Yr oedd yno rywbeth ar y ffordd. Ond yn lle gorfod talu, disgynodd i lawr, ac ymaflodd yn yr hen byst teirllath, ac a'u taflodd hwy a'r hen glwyd dros y clawdd ar unwaith. Ffordd rydd i mi bellach! meddai ef, ac yna esgynodd i'w gerbyd, a thrwodd âg ef rhag ei flaen: ac y mae y ffordd yn rhydd ac yn rhad i bawb ar ei ol ef hyd heddyw. Felly yr oedd Cadben mawr ein iachawdwriaeth ni yn myned trwy byrth y nef adref i ogoniant; ond nid rhyw byst o goed, llonydd, meirw, oedd ganddo ef i'w symmud oddi ar y ffordd, ond ysgrifen-law yr ordeiniadau, yr hon oedd i'n herbyn ni, â deg o fagnelau Sinai ger llaw, â'u ffroenau yn pwyntio at fywyd yr euog; a miloedd o gythreuliaid, a myrddiynau o dywysogaethau, a