Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

channoedd o awdurdodau, yn sefyll o amgylch y lle, yn rhwystro fforddolion Sion i deithio llwybr y bywyd. Ond ar Galfaria, pan aeth Mab Duw i symmud y gates ysbrydol, dyma ef yn galw y gelynion i gyd o bob man i faes y frwydr! gwaeddodd ar gynghreiriau y gethern, ac ar holl ddichellion y fagddu i ddyfod yn mlaen:—' Yn awr yw eich awr chwi,' eb efe, 'a gallu y tywyllwch!' Rhyfedd iawn ar hyn, fel yr oedd penaeth y diafliaid yn rhoddi ei word of command i holl alluoedd y pydew i ddyfod yn mlaen: 'Dowch allan bob un heddyw i Galfaria,' meddai ef; ymarfogwch, chwi ddewrion enwog y pwll diwaelod; 'ymwrolwch, chwi ffyddloniaid yr affwys du! a chwithau y cythreuliaid bychain, gweiniaid, cloffion yna, dewch allan bob un; os na fedrwch chwi ymladd, chwi ellwch fingamu, a llaesu gwefl, a phoeri fel cathod! Clywch yr udgorn yn galw i'r frwydr!' Gyda hyn, dyna yr hen gatrodau duon yn cychwyn tua'r groes. 'Ha! dyma ddiafol ac angelion yn dyfod! ebe Iesu Grist; 'wel, tyred yn mlaen, dywysog y fagddu, a mi a'th darawaf nes y byddot ti yn disgyn fel sildyn torgoch yn y fan yna! dewch chwithau yn mlaen, hen deirw Basan, â'r cyrn degllath, a mi a'ch tarawaf âg un ergyd, nes y byddoch yn glynu yn holltau creigiau Iudea, gerfydd eich cyrn! deuwch chwithau yn mlaen, hen unicorniaid uffern, a mi a'ch llethaf âg un wasgfa, nes bo y parlys mud arnoch bob un, a mi a ysigaf eich balchder âg un dyrnod! 'Hawyr bach! bobl anwyl! dyma ddyffryn Jehosaphat wedi ei balmantu â charnau teirw a chyrn unicorniaid drosto i gyd! Wel, bellach, byrth, dyrchefwch eich penau! ddrysau tragwyddol, ymagorwch! a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn. Haleluiah! dyna y pyrth yn agored—dyna y ffordd yn glir bob cam—dyna yr hen femrwn wedi ei hoelio wrth y groes; dyna yr udgyrn yn dechreu seinio, a'r telynau yn dechreu chwareu, a'r frwydr fawr drosodd am byth, a'r saint hwythau yn dechreu canu'

Efe a ddrylliodd y bwa saeth,
Y waew wnaeth yn ddarnau,
Ysigai 'r holl darianau pres,
Fe dorai'r rhes cleddyfau,' &c."

Byddai yn ofer ceisio darlunio yr effeithiau oedd ar y dorf, dan yr hyawdledd chwareus hwn; canys yr oedd pawb wedi