Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu cwbl syfrdanu drwy yr holl le. Yr oedd yn tywallt yr hyawdledd mwyaf swynol ar benau y bobl, nes yr oedd teimlad byw i'w ganfod yn mhob wyneb oedd ar y maes ar y pryd. Haws yw ei ddychymygu na'i ddarlunio!

Dichon y gall yr anghreifftiau hyn roddi rhyw awgrym byr o'r hyn oedd yn hynodi y tri seraph tanllyd; a dichou y gallant gyflwyno i feddyliau y genedlaeth ieuanc, a'r rhai na chlywsant mo honynt yn pregethu erioed, ryw ddychymyg egwan am eu galluoedd, ac yn mha bethau yr oeddynt yn ymdebygu, ac yn mha bethau yr oeddynt yn gwahaniaethu oddi wrth eu gilydd. Yr oedd gan bob un o honynt ei dŵr a'i arfogaeth ei hun, ac yr oedd fel tŵr Dafydd, yr oedd â tharianau fil yn nghrog ynddo. Yr oedd gan bob un ei ffordd ei hun, a phob un yn nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll annuwioldeb, anystyriaeth, ac anfoesgarwch i'r llawr. Nid oes dim a wnelom ni â dyrchafu na darostwng un o'r tri, y naill ar draul y llall. Nid ein hamcan oedd na mawrhau na bychanu un o honynt, ond dangos portreiad cywir a ffyddlawn o honynt; gyda dangos yn mha ffordd yr oedd eu rhagoriaethau yn dysgleirio. Y mae coffäu enwau y tri gwron yn dwyn hen gofion maboed yn hiraethlawn iawn i'n teimladau; ac y maent yn ein harwain i ofyn

P❜le mae'r hen seraphiaid tanllyd,
Siglai'r ddaiar, siglai'r nef?
P'le mae Elias? P'le mae Williams?
P'le mae Christmas fwyn ei lef?—
O fysg gwerthfawr feibion Lefi,
Collais olwg ar eu gwedd,
Ciliais o'r gymmanfa i ddarllen
Enwau 'r tri ar gareg fedd!