Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XII

SYLWADAU DIWEDDGLOAWL

Y MAE llawer o ffugiant yn cael ei ysgrifenu mewn ffordd ddychymygol, eto yn seiliedig ar wirionedd:—"Fiction founded on fact." Honir mai ffaith fydd y sylfaen, ond addefir mai tybiau fydd yr oruwch adeiladaeth. Ond nid felly y mae gyda ein nodiadau ar John Elias. Nid gwirionedd yn sylwedd, a ffugiant yn addurn sydd yma; ond ffaith yw y sail, a ffaith yw yr adeiladaeth hefyd. Amcenir yma osod ger bron, ar y lleni, faesolygiadau, yn ymsymmud y naill ar ol y llall, mewn arddangosiadau dilynol, fel y darfu iddynt gymmeryd lle yn weithredol a gwirioneddol. Nid ymdrech sydd yma i chwyddo gwrthddrychau i faintioli annaturiol, ond cais at dynu darlun cywir, a ffyddlawn i natur. Nid bwriad sydd yma i dynu ardeb mewn lliwiau cryfach na'r gwreiddiol, er mwyn rhoddi hynodrwydd yn ei ymddangosiad, ond ymgais at osod y gwrthddrych ei hunan ger bron mewn dull na byddo modd i neb fethu ei adnabod. Yn hytrach nag amcan i arloewi y darlun er mwyn dysgleirdeb, cais sydd yma i symmud pob varnish ymaith, er mwyn dangos y person yn ei wedd naturiol ei hun. Os na adwaenir portread heb gynnorthwy yr enw a fyddo wedi ei ysgrifenu neu ei argraffu dano, ni ystyrir ef yn werth dim yn y byd. Ymdrech syml sydd yma i gyrchu ein hareithiwr yn ol i'r byd am unwaith, a'i osod ger bron y rhai a'i clywsant mewn adgofion am bethau a fu, yn gystal a'i ddwyn i olwg llygad, ac o fewn cyrhaedd clyw, y genedlaeth sydd yn codi, y rhai na wyddant ddim am dano ond mewn hanes a son yn unig.

Gwyddai yr ysgrifenydd fod nifer o gofiantau wedi eu cyhoeddi am Mr. Elias yn barod, yn Gymraeg a Seisoneg, ond gan y bwriadai yntau wneyd rhyw ychydig o gofnodau am dano ryw bryd, ymattaliodd rhag darllen un o honynt, yn unig er mwyn ymochel, rhag cael ei dynu allan o'i lwybr ei hun, yn y naill ffordd na'r llall, i lwybr neb arall; a