Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

priodol yn debyg i ddyn yn troi allan i daith, heb wybod i ba le y byddai yn myned; a bod dyn na allai dynu casgliad priodol oddi wrth ei sylwadau, yn debyg i ddyn yn dychwelyd o daith heb wybod yn y byd pa le y bu. Nid felly yr oedd Elias. Byddai pob peth ganddo ef yn ei le ei hun, ac yn deilwng o hono ef ei hun, ac ni adawai byth le i arall wellhau ar ei ol.

Ychydig iawn a arferai alw o bennillion i'w gynnorthwyo yn ei bregethau. Nid ydynt yn aml ond pethau i wneyd i fyny am ddiffygion, er eu bod yn dyfod yn ddigon esmwyth a naturiol yn aml. Eithriad i'w drefn gyffredin ef yw yr hyn a geir yn pennod v. Efallai fod llawnder ei enaid o feddyliau yn rheswm am hyn: nid oedd ganddo ef ddiffygion i'w llanw. Adnodau oedd ei bennillion ef bob amser:—barddoniaeth yr Ysgrythyrau, gyda chywirdeb a phriodoldeb, bob Mewn addoliad cyhoeddus, yr oedd yn dra hoff o roddi Salmau Edmund Prys allan i'w canu. Ychydig o bennillion a gyfansoddodd efe. Y mae yr emyn a ysgrifenodd ar y mesur byr yn darllen yn dda iawn.

Mewn tramarawd yr oedd grym penaf Mr. Elias fel areithiwr. Gallai wrthwynebu peth gyda mwy o nerth na'i arganmawl: gallai dynu peth i lawr gyda mwy o rym na'i godi i fyny. Yr oedd nerth ei ddynoethiad o gyfeiliornad neu ryw anfoesgarwch uwch law pob dychymyg. Yma y· oedd efe megys yn ei elfen. Os dynoethi y pechod o halogi y Sabbath y byddai, gwnai hyny gyda y fath ddylanwad, nes newid ymddygiad cymmydogaeth gyfan. Os ymosod ar anfoesau cyhoeddus y byddai, gwnai hyny nes cael ei deimlo bob amser. Os dynoethi y pechod o ysbeilio ar ol llongddrylliadau y byddai, gwnai hyny nes gosod yr ysbeilwyr yn y fath anesmwythder cydwybod nes methu cysgu y nos, cyn danfon yr ysbail yn ol. Os ymosodai ar y ffeiriau cyflogi a gedwid newn rhai manau ar y Sabbath, neu negeseuau afreidiol, gwnai hyny gyda y fath wroldeb, nes y llwyr ddilëid yr arferiad o'r fan am byth. Gosodai dân ysol dan bob noddfa celwydd. Chwelid anfoesau cyhoeddus fel niwl o flaen y goleuni a daflai, o wres ei hyawdledd, nes clirio yr awyr yn deg! Dyma lle yr oedd ei brif gadernid.

Bernir yn gyffredin nad oes un bywgraffiad o hono wedi