Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei ysgrifenu yn ddigon desgrifiadol, hyd yn hyn. Golygir nad oes un wedi ei ysgrifenu fel y gellid ei adnabod heb ei enw; er yn ddiau y dywedid eu bod yn dda, cyn belled ag yr oeddynt yn cyrhaedd. Pa mor bell y llwyddwyd i wneyd y diffyg hwn i fyny yn yr amcan presennol, y cyhoedd biau barnu. Yr hyn a ddywedir am ei gofiantau, a ellir ei ddywedyd hefyd am ei ardebau. Nid yw y goreu o honynt yn ddim amgen na gwrthlun o hono. Nid yw agweddiad ei wyneb, bywiogrwydd ei lygaid, treiddgarwch ei dremiad, llefariaeth ei wedd, na ffurfiad ei gorff, yn cael eu dangos yn deg mewn un o honynt. Efallai mai y goreu, ar y cyfan, yw yr un a ymddangosodd yn yr Eurgrawn Efengylaidd, flyneddoedd yn ol; ond nid yw hwnw yn cyflawn ateb y dyben.. Y mae y llinellau gwreiddiol yno; ac nid anhawdd fyddai cael yr amlin eto. Gydag arweiniad rhyw un craff oedd wedi sylwi yn fanwl arno, gallai lluniedydd cywrain, o farn gyrhaeddgar a llaw ysgafn, dynu allan ddarlun teilwng o hono. Gresyn na byddai i ryw un galluog ymgymmeryd â'r gorchwyl, er mwyn trosglwyddo i'r oes a ddel olygiad naturiol arno.

Yr ydym yn awr yn terfynu ein sylwadau mewn ffordd O ADGOFION AM JOHN ELIAS:—un o'r dynion enwocaf, ar amryw ystyriaethau, a fagodd Cymru erioed:—dyn y bydd ei enw yn cael ei drosglwyddo yn mysg hanesion crefyddol ein gwlad, fel perarogl i'r oesau a ddel, a'r plant a enir mewn cenedlaethau rhag llaw, fel un o brif ddiwygwyr ei oes! Pa faint bynag oedd ei ddiffygion a'i golliadau, (a phwy sydd hebddynt?) nid oes neb na addefa fod ei ragoriaethau yn eu cysgodi ac yn eu gorchuddio i gyd! Y mae y brychau yn colli o'r golwg yn nhanbeidrwydd dysgleirdeb yr haul. Nid oedd dim a wnelom ni âg un amcan, mwy na llai, na cheisio tynu portread cywir o hono yn ei gymmeriad cyhoeddus fel pregethwr. Dichon fod awchder gwres ei deyrngarwch wedi ei gario i eithafion yn ei olygiadau gwleidyddol; ond nid y politician, ond y pregethwr, oedd gwrthddrych ein hadgofion. Ac os bydd i'r adfyfyrdodau hyn fod yn foddion i godi dymuniad newydd drwy y wlad, ar fod i ddeuparth o'i ysbryd ddisgyn ar y pregethwyr ieuainc sydd yn cychwyn i'r maes, ac i godi ysbryd gweddi yn yr eglwysi,