Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i erfyn am i'w fantell ddisgyn ar weinidogion y cyssegr yn gyffredinol; ac i ddyrchafu eu golwg oddi ar y gweision at y Meistr mawr, ac i waeddi allan oddi ar wir wasgfa yn wyneb yr olwg bresennol sydd ar ansawdd ein gwlad, "Pa le y mae Arglwydd Dduw Elias?" bydd yr amcan oedd mewn golwg wrth eu hysgrifenu wedi ei gwblhau.

Ofnwn, na welwn, un waith
Wr o'i ail, na'i fedr eilwaith;
Ni ddaw neb o'i ddoniau o
Fyth atom, na'i fath eto!