Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XIII

JOHN ELIAS, EI FARWOLAETH A'I GLADDEDIGAETH.

DYWEDODD Addison unwaith wrth foneddwr ieuanc oedd o olygiadau lled ammheus ar wirioneddau Cristionogaeth, pan yr oedd cyfaill iddo, yr hwn oedd yn Gristion dysglaer, ar gymmeryd ei adenydd i'r byd ysbrydol, "Deuwch gyda mi," gan ei arwain yn dyner wrth ei law, "a dangosaf i chwi pa fodd y gall Cristion farw!" Yr ydym ninnau wedi edrych ar Elias yn byw, ac wedi gwneyd amryw nodiadau ar ei fywyd; efallai na byddai yn anmhriodol i ni, cyn terfynu, edrych pa fodd y gallai farw. Awn i'w ystafell angeuol, yn y mynydau mwyaf difrifol a fu arno erioed, a chawn weled a chlywed pa beth a ysgrifena, a pha beth a ddywed yno. Gorphenodd ei yrfa ddaiarol yn y Fron, Llangefni, yn Mon, ar yr 8fed dydd o Fehefin, 1841, yn y 69ain flwyddyn o'i oedran. Dyma ei dystiolaeth pan yr oedd ar wynebu brenin y dychryniadau, a chychwyn i ffordd yr holl ddaiar; pan yr oedd yn

—tynu at ochr y dŵr,
Bron gadael yr anial yn lân."

"Yr ydwyf mor ddedwydd fy meddwl ag y dichon i ddyn fod o dan y fath boen ag yr wyf ynddo. Nid oes un cwmwl yn myned rhwng fy enaid a'm Duw; y mae y cysuron hyny yr arferwn eu mwynhau yn moddion gras ac yn y weinidogaeth, yn dylifo eto i fy enaid; ïe, y maent weithiau yn gryfach ac yn fwy bywiog yn eu heffeithiau yn awr nag y buont erioed o'r blaen!"

Y mae yr hanesyn am yr ymherawdwr oedd â chraith led hagr ar ei wyneb, yn myned i gael tynu ei ddarlun, yn adnabyddus i'r cyffredin. Annogid ef i eistedd â phwys ei ben ar ei benelin, a'i law dan ochr ei wyneb, a'i fys yn cyrhaedd dros y graith, er ei chuddio yn gwbl oll, fel nad ymddangosai dim o honi ar y llen. Hawdd ydyw addef nad oes nemawr ddyn heb ei graith. Ond nid â chreithiau