Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nad 'yn rhosydd Moab, ar lan yr Iorddonen' yr ydwyf. Mewn gofid, a thrwy anhawsder mawr yr ysgrifenais—gan fy ystyried fy hun yn ysgrifenu ger bron Duw: ac efallai, yn ysgrifenu yr hyn a ddarllenir pan y byddaf fi yn ddystaw yn y bedd. Nid oes genyf ddim i'w ddyweyd am danaf fy hun, heb law am fy mhechadurusrwydd, fy ngwaeledd, a'm trueni mawr; ond byddai dda genyf ddyweyd yn uchel ac yn eglur iawn am ddaioni, trugaredd, a gras Duw tuag ataf fi, yr annheilyngaf! Dyma y tlawd a godwyd o'r llwch! dyma yr angenus a ddyrchafwyd o'r domen, ac a osodwyd i eistedd gyda phendefigion pobl Dduw! Os gwnaed rhyw les drwy fy llafur anmherffaith iawn, Duw yn ei ras yn unig a wnaeth hyny; efe biau y gogoniant i gyd. Yn y dydd y dadguddia Duw y dirgelion y gwelir hyny yn eglur. Os cymmerodd Duw fi yn offeryn yn ei law i ddwyn rhyw bechadur neu bechaduriaid at y Gwaredwr, yr oedd, ac y mae, hyny yn fraint annhraethol fawr! A bydd yn orfoledd i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer, ac na chymmerais boen yn ofer!"

Y mae y syniadau a'r teimladau uchod, a fynegwyd megys oddi ar fin y bedd, yn dangos yn ddigon eglur ei fod yn profi ei hun yr hyn a gymhellai ar ereill. Yr oedd wedi dywedyd llawer yn ystod ei weinidogaeth am y modd y gallai Cristion diegwan o ffydd farw, ac yr oedd wedi annog llawer ar ei wrandawyr i ymestyn at gyrhaedd mwynhad o'r hyder hwnw a'u dyrchafai goruwch ofn angeu; ac yn awr, oddi ar y dystiolaeth hon, y gwelir nad oedd yn argymhell i ereill ddim ag yr oedd yn ddyeithr iddo ei hun. Yr oedd y gofidiau corfforol yr oedd yn dyoddef danynt yn ei osod mewn anfantais i fwynhau y cysuron hyn; ond eto, gan nad oedd un cwmwl yn myned rhyngddo a wyneb ei Dduw, yr oedd yn parhau i gael llewyrch ei wyneb. Yr oedd egwyddorion yr ymadawiad yn cael eu teimlo ganddo yn ei natur; ac yr oedd cyssylltiadau y babell yn cael eu dattod o radd i radd, ac o gwlwm i gwlwm; eto yr oedd yr awyrgylch yn berffaith glir oddi wrth deimlad ei fynwes hyd at orseddfainc yr Ion! Y mae llawer yn cael eu mynedfa trwy y glyn yn ddigon esmwyth, o ran teimladau y corff; ond y mae