y golygfeydd i'r meddwl ar yr un pryd yn dywyll a thrist. Ond am wrthddrych ein hadgofion, trefnwyd iddo ef fynediad helaeth i'r dragwyddol deyrnas, trwy ein Harglwydd Iesu Grist: cyrhaeddodd y porthladd a ddymunai, fel llestr yn ei llawn hwyliau o flaen yr awel deg; a chanai mewn myfyrdod dystaw wrtho ei hun:
Pan bwy'n rhodio traeth Iorddonen
Ac yn croesi grym ei lli,
Ffydd yn ngwaed yr Oen a laddwyd
Fodda fy ammheuon i;
Pan fo golau 'r byd yn t'wyllu
Yn ngoleuni 'r ochr draw,
Rhydiaf drwy ei dyfroedd dyfnion
Yn ddiangol yn ei law.
Heibio i frenin dychryniadau,
Ac heb ofn ei wyneb du,
Af yn mlaen trwy lys angelion,
Heibio 'r saint dysgleiriaf fry;
Yno 'n wylaidd mi ddynesaf
Hyd at droed yr orsedd wen,
Lle teyrnasa fy Ngwaredwr,
I roi'r goron ar ei ben.
Wedi syllu ar ei berson
Yno ddeg can mlynedd llawn,
Hyny 'n pasio fel ychydig—
Oriau byrion y prydnawn,
Trof i ganol côr y nefoedd
Ac eisteddaf yn eu plith,
Gyda'r delyn aur i seinio
Anthem na therfyna byth!
Diwrnod i'w gofio yn hir yn Mon ydoedd y pymthegfed o Fehefin, yn y flwyddyn deunaw cant ac un a deugainy dydd y claddwyd yr hyn oedd farwol o John Elias, yn mynwent Llanfaes, ger Beaumaris. Y mae cryn deimlad ar lawer pryd wedi cael ei amlygu ar gyflwyniad dynion o enwogrwydd mawr i dŷ eu hir gartref: a theimlad tra naturiol ydyw. A holl Iudah a Ierusalem a alarasant am Iosiah Ieremi hefyd a alarnadodd am Iosiah; a'r holl gantorion a'r cantoresau yn eu galarnadau a sonient am