Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn dangos fod rhywbeth allan o'i le yn y fynwes. Ond am y dorf hon, yr oedd aml un yn eu mysg yn gallu dyweyd gyda y Dr. Gouge, "Nid oes genyf fi ond dau gyfaill yn y byd hwn, sef Crist ac angeu; 'Byw i mi yw Crist, a marw sydd elw!'"

Nid yw yn anhawdd dirnad beth oedd rhediad myfyrdod y dorf a'r edrychwyr fel yr oeddynt yn cychwyn, gan symmud, cerbyd ar ol cerbyd, a march ar ol march, a theithwyr ar draed, y naill ar ol y llall, oddi wrth drothwy annedd y trancedig. Yr oedd tref Llangefni yn orlawn o bryder ar y pryd. Nid yn fynych y gwelwyd y masnachdai na'r anneddau a'u lleni wedi eu gollwng i gau allan y goleuni mor gyffredinol. Nid oedd dim llai na cholli ardderchogrwydd Israel a fuasai yn creu y fath gyffro yn mynwesau pob gradd. Yr oedd yr olwg ar yr orymdaith yn symmud yn araf oddi wrth y Fron, ar hyd y brif-ffordd, ac heb odid lygad sych o'r naill ben i'r llall, yn dra effeithiol. Yr oedd nifer y galarwyr a hyd y llinell yn estyn ac yn cynnyddu wrth bob croesffordd, ac ar gyfer pob llwybr, nes yr ydoedd yn ddim llai na milltir a hanner o hyd cyn cyrhaedd Porthaethwy! Yr oedd yr olwg ar y brodorion oedd ar derfynau y ffordd, ac yn nrysau y teios, i'w gweled fel tyrfa yn cadw gŵyl. Mynai pob gweithiwr gwledig yr olwg olaf ar gynhebrwng yr hwn y cawsent y fath adeiladaeth wrth ei wrandaw. Mynai pob boneddwr ddangos rhyw arwydd o barch i gofion un a ystyrient o deilyngdod mor fawr, trwy roddi attaliad ar bob gwaith tra y byddai y gynnulleidfa yn myned heibio. Yr oedd cannoedd yn cymmysgu eu dagrau hyd ymylon y llwybrau; yr oedd myrdd o ocheneidiau yn codi o eigion enaid, ac yn heidio awyr Mon ar y pryd. Yr oedd y sylw ystyriol a delid i ysgogiadau a chamrau y galarwyr yn gadael effaith ddwys ar feddyliau yr edrychwyr tra y syllent ar yr orymdaith hirfaith yn symmud yn mlaen—nifer ar draed, bob yn bedwar, yn cael eu dilyn gan y gweinidogion, y meddygon, yr elor-gerbyd, yr alar-gerbyd, cerbydau neillduol cyfeillion, y gweinidogion ar feirch, deugain o gerbydau chwanegol, cant a hanner, neu chwaneg, ar feirch, bob yn ddau—a'r cyfan oll yn yr agwedd fwyaf