Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

difrifol, ac yn y wisg fwyaf galarus. Yr oedd pob peth fel pe buasent yn ymuno i chwyddo yr arddwysedd. Yr oedd trymder wedi ei argraffu ar bob gwynebpryd, ac yr oedd dagrau wedi ffosu pob grudd. Yr oedd amryw o'r dynion dewraf a chadarnaf dan effeithiau mor ddwys fel yr oeddynt yn dwyn delw plant amddifaid yn wylo ar ol colli eu tad, ac na fynent mo'u cysuro am nad ydoedd!

Yr oedd tref Beaumaris yn ei galarwisg o'r naill gŵr i'r llall, ac yr oedd pawb yn mynu dangos rhyw arwydd o'u cydymdeimlad â chalon y dorf, fel yr oedd yn ymsymmud yn mlaen. O'r diwedd, wele y Llan a'r fynwent yn dyfod i'r golwg!—yr oedd hyn eto yn cryfhau y teimlad. Y mae y lle yn un o'r manau mwyaf neillduedig yr olwg arno. mae y fynwent wedi ei chau allan fel gardd glöedig. Dyma y lle mwyaf priodol yn y fro i fod yn swyddfa i gadw llwch aur gwerthfawr feibion Lefi hyd fore caniad yr udgorn, a gwysiad archangel Duw fel rhingyll swyddol y farn fawr! Dacw yr elor—gerbyd yn cyfeirio trwy borth y fynwent. Y mae y trefniadau arferol wedi eu cyflawnu yn y deml. Y mae y gwasanaeth difrifol drosodd; ac y mae y corff wedi cael ei roddi i lawr yn esmwyth yn y bedd i orphwys, "mewn gwir ddiogel obaith o adgyfodiad i fuchedd dragwyddol trwy ein Harglwydd Iesu Grist." Mae y beautiful prayers, yn ol yr arfer ar gladdu, yn cael eu darllen. Y maent yn hynod o darawiadol. Y mae yr ymadroddion yn awenyddol, yn uchelfrydol, yn blethiadol, ac yn wir effeithiol. Pa ddyn anysbrydoledig a allai roddi wrth eu gilydd linellau mwy swynol ar y teimlad? Maent mor newydd i'w clywed a phe buasent wedi eu cyfansoddi ar hyn o bryd, at yr achlysur hwn, am y waith gyntaf erioed. "Hollalluog Dduw! gyda'r hwn y mae yn byw ysbrydoedd y rhai a ymadawsant' "yn yr hwn y mae eneidiau y ffyddloniaid, wedi darfod eu rhyddhau oddi wrth faich y cnawd, mewn llawenydd a dedwyddyd".."ryngu bodd i ti o'th radlawn ddaioni "gaffael i ni ddiwedd perffaith a gwynfyd, yn nghorff ac enaid, yn dy ddidranc a'th dragwyddol ogoniant".."a derbyn dy fendith a ddadgan dy garedig Fab," &c. Y mae rhyw sain hanner Beiblaidd yn yr ymadroddion prydferth