hyn sydd yn boddio y glust yn fawr ar eu darlleniad bob tro! Mae cynnifer o'r dorf ag a allant yn mynu cael cip-olwg ar y lle yr huna ef, a'i hen gyfaill a'i gydweithiwr, y Parch. Richard Llwyd. Mae beddau y ddau wron wedi tragwyddoli y lle hwn! Hynodwyd y Franciscan Friars sydd gerllaw i'r fan, am mai yno y claddwyd Joan, merch John, gwraig Llewelyn fawr, gyda llawer barwnig a gwympwyd o bryd i bryd yn y rhyfeloedd Cymreig—ond pwy sydd yn malio dim am eu coffawdwriaeth hwy; y mae eu henwau wedi eu claddu yn y llwch gyda'u gweddillion marwol! Ond y mae enwau y ddau gawr hyn wedi cyssegru y llanerch neillduedig hon—yn eglwys, yn fynwent, yn enw, ac yn gwbl—â hynodrwydd a bery tra y byddo pregethu efengyl Crist yn hen wlad y Derwyddon. Bydd eu henwau ar gael pan y byddo yr holl gromlechau sydd ynddi wedi adfeilio yn llwch! Beth sydd yn hynod yn Llanfaes? Dim yn arbenig, oud mai" yno y claddwyd y cewri!" Y mae yno gofion a dery y galon Gymreig gyda llawer mwy o nerth yn yr oesau a ddel na dim o'r holl wychder sydd yn addurno y gymmydogaeth o'r bron!—Y mae y dorf bellach wedi eneinio eu beddau â'u dagrau. Y mae y naill a'r llall yn coffa cyssylltiad enwau y ddau â'u gilydd wrth gilio yn ddystaw o'r lle. "Saul ac Ionathan oedd gariadus ac anwyl yn eu bywyd; ac yn eu marwolaeth ni wahanwyd hwynt "—"Pa fodd y cwympodd y cedyrn yn nghanol y rhyfel?" Coffânt am y ddau fel cydfilwyr yn yr un fyddin: fel cydweithwyr yn yr un gorchwyl: fel cyd—ddyoddefwyr yn yr un profedigaethau: fel cyd—deithwyr tua'r un wlad: ac fel cydetifeddion o'r un addewid y rhai nid oedd y byd yn deilwng o honynt! Yr oedd ambell un yn rhedeg mewn adgofion mor gynnar a bore eu hoes, pan oeddynt yn gorfod gwynebu muriau rhagfarn, oedd wedi eu codi gan ysbryd erlidigaeth yn y wlad; a phan y cyhuddid hwy o amcanion drygionus fel chwyldroadwyr. Wrth edrych ar y ddau erbyn hyn wedi diosg eu harfogaeth, yn gorphwys, yn huno, ac yn cael llonyddwch, yn y gwely pridd—ond hwnw wedi ei esmwytho â manblu, ei drwsio: lleni porphor, a'i berarogli yn ddymunol gan bresennoldeb yr Iesu mawr ei hun, byth er pan draddodwyd yr awdl hono
Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/129
Gwedd