Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a phawb yn cael eu boddhau yn anarferol, ac y mae yr addoliad cyntaf drosodd.

Dyna wrthddrych ein hadgofion yn codi i fyny, ac yn anerch y dorf, gan argymhell moesau da yn mhob man, ac addoliad teuluaidd yn mhob tŷ; ac y mae yn codi pob teimlad o ddyhewyd a fedd pawb i uchder penaf ymarferiad. Y mae hi yn awr yn dechreu hwyrhau. Y mae mantelli y nos yn dechreu ymdaenu; y mae yr awyr yn glasu, a'r hin yn dechreu oeri, a'r goleuni yn chwareu ei belydran olaf ar fynwes yr eigion yn mhell draw, ac y mae yr haul yn machlud yn ei fantelli cochion gyda godreu mynydd y twrf. Dyna y gynnulleidfa ar chwâl, pawb i'w fangre, a'r addoliad cyhoeddus drosodd, a therfyn ar wasanaeth y dydd.

Y mae hi weithian yn wyth o'r gloch, ac y mae cyfeillach y gweinidogion a'r pregethwyr yn dechreu i'r mynyd awr; ac fe fydd eu cynnadleddau drosodd chwarter cyn deg, sef yr awr i ddechreu ar y maes.

Y mae yr holl wlad o'r bron â'u golwg at y fan yma erbyn hyn. Y mae heolydd y dref yn dduon, gan y bobl yn cyfeirio eu camrau tua'r maes. Y mae yna filoedd yn y lle er ys meityn. Y mae yna filoedd ar filoedd eto ar hyd y prif-ffyrdd; rhai ar draed, a rhai ar feirch, a rhai mewn cerbydau, yn nghanol y llwch-pawb yn cyfeirio eu ffordd tua'r un parth. Y mae rhyw sylwedydd yn esgyn i ben y foel, â map y wlad yn ei law, ac yn synu mewn dychymyg o ba le y deuant i gyd! Y mae yn canfod tyrfa yn ymsymmud ar ochr pob bryn; a nifer ar bob bwlch yn croesi pob mynydd; a lluaws ger llaw pob pontbren yn aros eu tro i groesi pob afon. Y mae y minteioedd yn rhesi ar hyd y llwybrau yn cyrchu yn mlaen drwy y dyffrynoedd a'r glynoedd yn mhob lle. Nid oes neb yn gofyn i ba blaid y perthynant heddyw. Y mae trwydded wedi ei chael, rywfodd yn ddiarwybod, i gladdu sectau o'r golwg am un diwrnod yn y flwyddyn o leiaf. Y mae yr Eglwyswr wedi gadael ei Lyfr Gweddi Gyffredin adref ac wedi anghofio mai