Eglwyswr ydyw; mae y Bedyddiwr wedi cael pont i ddyfod dros yr afon ar dir sych; mae y Wesleyad wedi anghofio enw yr hen ddiwygiwr heddyw yn llwyr; ac y mae yr Annibynwr yntau fel pe byddai wedi anghofio fod neb yn y byd yn ymdrech dros un gredo, heb law "y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint:"— —ac fel hyn y cyfarfyddant oll, bawb yn un a chytûn yn yr un lle. Y mae y tyrfaoedd acw sydd yn y certwyni gyda'r carfanau mawr, yn edrych yn lled wledig; ydynt, ond gadewch i hyny fod, y maent yn ddigon parchus yn ol arferion syml eu gwlad. Dyna le i'r dim i'r lluniedydd dynu darlun o "Welsh costume;" yn lle y sarhâd a welir arnynt yn fynych yn ffenestri masnachdai ein gwlad!
Y mae hi yn ddeg o'r gloch! Y mae y dorf yn cynnyddu o hyd! Wrth reswm, o ba le y maent yn dyfod oll? Dyna yr hen dad penllwyd wedi anerch yr orsedd yn anwyl. Dyna y canu mwyn, meddal, hirllaïs, drosodd. Y mae y bregeth gyntaf wedi terfynu yn y modd mwyaf boddhaol. Y mae dirgelwch nerth anorchfygol y pregethu Cymraeg wedi dechreu cael ei ddadblygu eisoes; ac y mae y bobl mewn hwyl i wrandaw prif bregeth y flwyddyn erbyn hyn o bryd. Y mae pawb wedi cael llawn dal yn eu mynwes am daith y dydd yn barod. Y mae y bregeth olaf wedi dechreu. Y mae y pregethwr yn ymddangos yn ddyn cryf, iachus, glandeg yr olwg, llawn o gorffolaeth, ac yn edrych yn wrol iawn. Y mae yn mhob modd wedi ei dori allan gan ragluniaeth, o ran meddwl a chorff, at ei swydd. Y mae yna enaid cryf mewn corff uerthol. Y mae yn llefaru yn eglur. Y mae cloch soniarus yn mhob dant o fewn taflod ei enau. Dyna "Ioan Aurenau" mewn gwirionedd! Y mae ei ysbryd wedi ei danio gan deimladau y bregeth gyntaf; nid i'w daflu oddi ar ei elfen naturiol, ond yn hytrach i dynu ei holl enaid allan. Y mae yn llithro yn gyflym at amcan ei genadwri. Y mae ei feddwl yn gwreichioni mewn trydaniad gan wres amcan ei destyn,—" Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tyuu