Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD I

Y MAE nifer o ddarluniadau wedi eu tynu o John Elias, o bryd i bryd, mewn rhyddiaith, barddoniaeth, a phortreadau. Y maent gan mwyaf wedi eu gwneyd i osod allan ŵr mawr a thywysog yn Israel, yn hytrach na dilyn y gwreiddiol yn unig. Y darlun goreu yw y tebycaf i natur, ac nid y gwychaf ei liwiau. Peth hawdd yw tynu llun dyn; ond peth anhawdd yw tynu llun y dyn. Cryn orchest ydyw gwneyd cyfiawnder âg ardeb y gwr sydd genym yn awr dan sylw dan bob amgylchiadau. Y mae adgofion personol weithiau yn ateb llawn cystal dyben yn hyn a dim a all yr hyawdledd mwyaf, neu'r arfolawd dysgleiriaf, ei gynnyrchu. Maddeuer i ni, gan hyny, am osod ychydig o adgofion ger bron, yn lle darlun, am dro.

Y mae cyhoeddiad John Elias, a gwr dyeithr o'r enw Thomas Jones, Corwen, gydag ef, yn un o drefydd Môn ar noson waith. Y mae hyn yn peri cryn gyffro yn y gymmydogaeth. Y mae y ddau yn cyfarfod eu gilydd yn ddamweiniol. Y mae yr addoldy yn orlawn o wrandawyr; y mae y gwasanaeth wedi dechreu. Y mae hen ŵr penwyn o'r enw Rhisiart Williams, Gorslwyd, yn dechreu yr oedfa. Y mae y gwr ieuanc yn codi at y ddesg. Y mae ei edrychiad fel dyn craff, treiddgar, wyneb llym, trwyn uchel teneu, a'r olwg arno ar y cyfan yn ddigon dymunol. Y mae yn lled ddyeithr i'r dorf—ni welsant mo hono o'r blaen, oddigerth rhyw unwaith, a'r pryd hwnw fel cyfaill i John Roberts, Llangwm; ond yr oedd wedi tynu sylw rhai y tro hwnw fel dyn ieuanc gobeithiol. Y mae yn darllen ei destyn,—"Canys y palasau a wrthodir, lluosogrwydd y ddinas a adewir; ïe, yr amddiffynfeydd a'r tyrau fyddant yn ogofeydd hyd byth, yn hyfrydwch asynod gwylltion, yn borfa deadellau, hyd oni thywallter yr Ysbryd o'r uchelder, a bod yr anialwch yn ddoldir, a chyfrif y doldir yn goed-dir." Y mae yn dangos