Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn fuan ei fod yn ymadroddwr medrus; y mae yn tywallt ffrwd o hyawdledd, nes y mae yn symmud teimladau y dorf; a chyn pen hanner awr, y mae yn gweithio ei hun i hwyl mor ddedwydd, nes y mae yn gallu cario teimladau y gynnulleidfa gydag ef yn hollol; a chyn diweddu, y mae wedi cael perffaith feistrolaeth ar dymmerau ei wrandawyr, nes y mae yr holl dorf yn foddfa o ddagrau, ac yn ymyl tori allan i orfoledd. Y mae yn terfynu yn nghanol gwres y teimladau hyn yn yr adeg fwyaf priodol, ac y mae yn gadael ei wrandawyr yn y myfyrdodau mwyaf derchafedig! Tro anarferol ydyw hwn. Nid yn fynych y gwelir pob peth yn cydgyfarfod mor hynod o darawiadol. Y mae y dorf am fynyd yn fud ddystaw oll, gyda'r eithriad o'r ocheneidiau mynych sy'n dianc o luaws o fynwesau megys yn ddiarwybod iddynt. Y mae yn ofer pregethu dim chwaneg heno. Gwell terfynu ar hyn. Wel, yn awr yr oedd y prawf i fod ar alluoedd yr hen gawr. Yn sicr, yr oedd teimladau y dorf ar y pryd wedi eu codi mor uchel, fel y buasid yn meddwl mai ledio pennill a gweddïo fuasai yn oreu iddo ef y waith hon. Dywedodd rhai hyny yn ddystaw ar y pryd. Ond nid felly yr oedd rhoi Mr. Elias i lawr. Pa fodd bynag, dacw ef yn codi i fyny yn araf, wylaidd; y mae yn agor y Beibl; y mae llyfr du teneu ganddo yn ei law chwith, a'i fys blaenaf yn ei ganol; y mae yn taflu golwg ar y dorf i fyny ac i lawr; y mae yn cyfeirio at y ffenestr yn y talcen, ac yn gofyn, "A fyddwch chwi gystal ag agor y ffenestr acw?" Yna, y mae yn cyfeirio at ffenestr yn y cefn, ac yn gofyn, A fyddwch chwi gystal a chau y ffenestr acw? y mae yr awr yn lled drymllyd. A fyddwch chwithau gystal a dyfod yn mlaen o'r drysau y mae digon o le yn yn yr eisteddleoedd acw.' Y mae yn rhoddi pennill allan i'w ganu

Ymddyrcha Dduw y nef uwch law,
Oddiyno daw d' arwyddion," &c.

Y mae yn gwrandaw ar seingarwch y canu er mwyn adnabod tymmeredd yr awyr—i ddeall yn mha gyweirnod i ddechreu llefaru, i ddirnad pa faint o lais fyddai yn ofynol i lanw y lle, ac i ddyfalu pa fodd i ochelyd oedfa drom, ar ol y cyffro mawr a fuasai ar deimladau y dyrfa eisoes. ac i ocheneidiau ac anadl y bobl lygru yr awyr. Y mae y canu