PENNOD II.
JOHN ELIAS MEWN CYMDEITHASFA
YN y bennod flaenorol, mynegwyd na amcenid yn y nodiadau hyny ddim yn amgen na gosod ger bron ychydig o adgofion am Mr. Elias. Felly y waith hon, ni chynnygir at ddim chwaneg na gosod ar lawr ychydig o adgofion am dano mewn argraffiadau a lynasant yn y meddwl ac ar y teimlad, ac sydd mor fyw heddyw a phe buasai yr amgylchiadau y cyfeirir atynt wedi cymmeryd lle ddoe—fel y byddont ar gof a chadw i'r rhai a'i clywsant, ac fel rhyw awgrym i'n darllenwyr ieuainc, na welsant ac na chlywsant ef erioed, yn mha bethau yr oedd ei brif hynodrwydd—yn mha fodd yr oedd yn gwahaniaethu oddi wrth ereill, ac yn tra rhagori ar bawb. Sylwedd ein nodiadau y tro hwn fydd, adgofion am dano yn anerch y dorf ar y maes, ac yn cadw addoliad teuluaidd yn y man y llettyai, mewn cymmanfa yn Môn. Yr oedd efe yn arferol o rybuddio y gynnulleidfa yn nghylch iawn ymddygiad a moesau da yn y cynnulliadau hyn bob blwyddyn, y noswaith gyntaf o'r cyfarfod ar ol y bregeth; ac yr oedd ei anerchion bob amser yn tynu sylw anarferol yr holl dorf, ac yn ffurfio un o ranau mwyaf arbenig y cyfarfod. Tua deng mlynedd ar ugain yn ol, y cyfarfod mwyaf dyddorol a dylanwadol ar hyd y flwyddyn yn Môn, oedd y sassiwn, neu y seiat fawr, fel ei gelwid ychydig o flyneddoedd cyn hyny. Gallesid galw y sassiwn y pryd hwnw yn gyfarfod cenedlaethol, mewn gwirionedd, heb arfer gormodiaith: o blegid yr oedd yr holl wlad yn talu math o warogaeth iddi. Hi oedd yr uchel-ŵyl gyfarfod i bawb, o bob gradd. Yr oedd yn rhaid fod Ierusalem yn dangos golygfa hynod ar brif wyliau yr Iuddewon gynt. Yr oedd y gwrywiaid yn cyrchu yno o bob parth o'r wlad, fel yr oedd holl heolydd y dref yn orlawnion o ddyeithriaid yn mhob man: yr oedd y gwerthwyr durturod a chywion colomenod yn llanw un heol, a'r cyfnewidwyr arian yn llanw heol arall.