Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd tynfa y dorf yn ferw yn yr un cyfeiriad, tua y porth deheuol; ac yr oedd y lluaws yn cael eu britho gan ddillad cochion y milwyr Rhufeinig yn mhob parth, a swn eu tabyrddau a'u chwibanoglau yn swyno clustiau yn mhob petryal, a thrwst diorphwys yn mhob cwr yn cyffroi y lle drwyddo draw. Ond pa mor uchel bynag oedd y cyffro yno, nid oedd yn fwy felly nag yn y sassiwn yn Môn. Yr oedd y cynnulliad yn lluosog iawn. Nid oedd poblogaeth y sir y pryd hwnw uwch law deugain mil; ac fe ellir sicrhau fod y bedwaredd ran o honynt yn bresennol yn un o'r cyfarfodydd hyn. Ugain mil oedd cyfrifiad cyffredin y werin; ond yr oedd yn rhaid fod y cyfrifiad hwnw yn gyfeiliornus iawn. Nid oeddynt yn gyffredin dros saith mil; ond ar un amgylchiad neillduol, cyrhaeddodd ddim llai na deng mil. Ar y tro y cyfeirir ato yn awr, darfu i'r Parch. Richard Llwyd, o Beaumaris, gyfrif penau y bobl ar hyd a lled y dorf; ac wrth eu lluosogi yn nghyd, yr oedd yn eu cael yn 12,000, fel y gwelid yn y ffugrau a ysgrifenodd yn y llyfr hymnau ar y pryd. Ond, a chyfrif fod sefyllfa y dorf yn grwn, ac nid yn ysgwâr, ni ellir sichrau fod yno dros ddeng mil. Ond yr oedd y cyfrif hwn yn ddirfawr, pan ystyrir ei gyfartaledd â nifer trigolion yr holl wlad; ïe, yr oedd yn fwy ddwy waith nag a welwyd erioed ar unwaith yn Exeter Hall yn Llundain.

Yr oedd y dref mewn cyffro mawr er ys pythefnos yn mlaen. Yr oedd pob tŷ yn cael ei adgyweirio, yr oedd pob heol yn cael ei gwyngalchu, yr oedd pob annedd yn cael ei glanhau, ac yr oedd pob ystafell yn cael ei thrwsio; ïe, gallesid dyweyd am yr holl dref, "Yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon."

Cymmerid maes at bregethu, a maes arall at geffylau y pregethwyr a'r blaenoriaid; a mawr fyddai y drafferth o rwymo ffrwyni, a nodi cyfrwyau, a gwarchod yr ysgrubliaid. Yr oedd cryn bryder bob amser wrth ddethol y maes pregethu, ac yn nghynlluniad a sefyllfa y pulpud, ac yn y rhagbryderu a fyddai am gael hin deg ar gyfer yr ŵyl fawr. Byddai ymholi mawr pwy fyddai y pregethwyr dyeithr a ddysgwylid i'r wlad, ac yn enwedig pwy o'r Deheudir. Yr oedd swyn mawr mewn cyhoeddiad gwr dyeithr o'r Deheudir y pryd hwnw. Byddai son uchel am gyhoeddiadau y dyeithriaid