Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o galon. Nac anghofiwch lettygarwch. Na chymmerwch unrhyw drafferth na thraul: cymmaint a ofynwn ydyw gwely sych, diberygl, a thamaid o fara, a llymaid o ddwfr. Gwerthfawrogwch ddyfodiad y dyeithriaid dan eich cronglwyd am dro. Efallai mai hẹno yr eneinir eich aelwydydd gyntaf â dagrau y saint; efallai mai heno y cyssegrir eich nenbrenau gyntaf â gweddïau duwiolion. Darfu i'r hen bererinion gynt, trwy ffydd, lettya rhai angelion yn ddiarwybod, a gwledda yn hyfryd gyda hwy yn eu lluesttai. Pwy a ŵyr na chewch chwithau heno lettya duwiolion yn nghwmni anweledig angelion y nef! Chwithau sydd yn cyfarwyddo y llettywyr, gofelwch am drefnu fel y byddo gweddïwr yn myned i bob tŷ. Sylwed y dorf i gyd, ar fod addoliad teuluaidd yn mhob annedd heno yn exact am naw o'r gloch. Y mae y nefoedd fawr wedi gwenu arnom eisoes; y mae negeswriaeth gyflym gan yr angelion rhwng yr orsedd a'r maes hwn er ys meityn; ac am naw o'r gloch heno, yr ydym yn hyderu y bydd ysgol Iacob yn orlawn o deithwyr ol a blaen, ac y bydd y fath nerth gan gydweddïau o'r gymmydogaeth hon dros chwe milltir o amgylch, fel y tynant y nefoedd i lawr at y ddaiar, ac y codant y ddaiar mor agos i'r nef, fel y bydd pabell Duw gyda dynion, ac mai y sassiwn hon fydd prif destyn yr ymddyddan heno yn nghyfrin-gynghor y drydedd nef."

Fel hyn, yr oedd meddyliau y bobl wedi eu hoelio wrth ei ymadroddion, ac yr oeddynt fel yn clywed ei eiriau yn ringio yn hir yn eu clustiau. Yr oedd arswyd ar bob dyn wrth gerdded yr heol rhag rhoi dim achos tramgwydd mewn dim. Ymddangosai y dorf fel crefyddwyr dichlynaidd i gyd. Naw o'r gloch yw yr awr weddi—a dyna y clock wedi taro. Yr oedd llawer wedi gorphen swpera ac addoli cyn yr amser. Yr oedd pawb wedi dyfod i wybod rywfodd neu gilydd pa le yr oedd Elias ei hun yn llettya. Yr oedd yr heol gyferbyn â'r tŷ wedi ei llenwi gan bobl gryn chwarter awr cyn naw o'r gloch. Ar ddyfodiad yr awr, pan agorwyd ffenestr yr ystafell o led y pen, yr oedd pawb yn dysgwyl am gael ei glywed yn darllen a gweddïo. Y mae ef yn rhoddi pennill allan i'w ganu yn mlaenaf—