"Ag isop golch fi'n lân,
Ni byddaf aflan mwyach;
A byddaf, o'm golchi fel hyn,
Fel eira gwyn neu wynach."
Mesur Salm byr—mesur go anghyffredin. Nid oedd neb a ddechreuai ganu am beth amser. Ond o'r diwedd, dyma wr y tŷ yn ei chynnyg hi: canwr trwstan druenus oedd efe —ond ра fodd bynag, gwnaeth y tro ar y pryd: a phwy a ddygwyddodd fod allan yn yr heol, wrth y ffenestr, ond Cadi Rondol; a dyma yr hen Gadi yn cipio yr hen fesur i fyny, ac yn dechreu ei rolio yn yr awyr, gan befrio ei hen lygaid croesion gwrthun, â'r olwg arni yn rhyfedd iawn; ond ni waeth beth a fo, gweithiodd yr hen fenyw ei ffordd, a gafaelodd yr holl dorf yn y canu mor wresog, fel y buwyd gryn dipyn o amser cyn cael pen a gosteg i fyned yn mlaen â'r gwasanaeth. Wedi gorphen y canu, darllenodd Mr. Elias Salm li.; ac yr oedd pob arwyddion yn y darlleniad fod y canu wedi tanio ei ysbryd. Yn nesaf, plygodd ei liniau i anerch yr orsedd. Y mae cynnyg darlunio y weddi yn hollol ofer; ac o ran hyny, nid â darlunio, ond âg adgofio y mae a wnelom. Yr ydym yn meddwl na fyddai yn rhyfyg i ni ddefnyddio geiriau yr hanes am weddi y Gwaredwr wrth adrodd. Yr oedd efe mewn "llefain cryf a dagrau, yn offrwm gweddïau ac erfyniau at Dduw" dros achubiaeth y bobl ar y pryd. Yr oedd y teimladau hyn yn rhywbeth uwchlaw y cyffredin. Yr oedd fel pe buasai wedi cae caniatâd i fyned i ymyl yr orsedd, i ymddyddan wyneb yn wyneb â Duw. Yr oedd ei wyneb yn dysgleirio fel yr eiddo Moses yn y mynydd. Yr oedd ei weddi mewn ofn, mewn ffydd, mewn cariad, mewn hyder, mewn nerth, ac mewn gafael na ollyngai mo honi nes cael ei neges. Os bu Iacob yn ymdrechu â'r angel, yr oedd yntau felly wedi ymaflyd yn nerth ei Dduw. Mynai arwydd er daioni y noswaith hono cyn codi oddi ar ei liniau, fel blaenffrwyth o ryw gynauaf mawr dranoeth! Yr oedd yn tynu ysbryd y bobl i mewn i'w ysbryd ei hun. Yr oedd y weddi hon yn treiddio trwy galonau annuwiolion fel cleddyf tanllyd ysgwydedig; ond yr oedd yn dyrchafu teimladau duwiolion,