Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gydroddwr o ddeg neu ugain punt yn y flwyddyn at y drysorfa. Parodd hyn gryn gyffro drwy yr holl Dywysogaeth.

Disgynodd yr hanes fel tân gwyllt ar deimladau dosbarth neillduol yn y wlad. Rhoddodd gryn dramgwydd i luaws o fawrion y tir; a pharodd ddychryn rhyfeddol yn ngwersylloedd dynion o feddyliau rhagfarnllyd ac egwyddorion culion. Amcanwyd perswadio yr Ardalydd na wisgai yn dda iddo ef ymgymmysgu felly âg Ymneilldüwyr; a dywedent, er y gallai dybenion rhai o'r bobl fod yn dda, eto, gan fod cymdeithas arall ar y maes yn barod, y byddai ei wasanaeth yn hono yn fwy o wir werth:—ond nid felly yr oedd troi gwron Waterloo o'i ffordd. Wedi iddo ef wneyd ei feddwl i fyny, buasai yn haws cael tori aelod arall iddo, na chael ganddo dori ei air. Yr oedd wedi addaw dyfod; a phenderfynai sefyll at ei addewid. Dichon mai yr ardalydd oedd y cyntaf o'r uchelwyr yn Ngwynedd a ddaeth allan i bleidio y gymdeithas hon.

Cyhoeddwyd hysbysiadau am y cyfarfodydd; ac yn mysg ereill, yr oedd Dr. Steward, o Liverpool, i areithio yn Seisoneg, a John Elias, o Lanfechell, i areithio yn Gymraeg. Erbyn hyn, gwelid nad oedd modd troi yr Ardalydd o'i lwybr.

Deallid y byddai ei bresennoldeb yn foddion i dynu lluaws o foneddigion i fod yn bresennol, er mai yn lled anfoddog y byddai rhai o honynt yn dyfod. Yr oedd yr Ardalydd newydd gael ei goroni â gogoniant bythgofiadwy Waterloo, a'i urddo â theitlau newyddion yn ddirif; ac yr oedd y gofgolofn o anrhydedd iddo newydd gael ei chodi ar glogwyn uchel Craig y Ddinas ar lan afon Menai yn Môn. Nid allai y boneddigion oedd newydd fod wrth y gorchwyl o godi monument iddo lai na'i gyfarfod yn y cynnulliad cyhoeddus hwn. Darfu iddynt oll feddwl mai gwell fyddai bod yno, a chaniatäu i'r Dr. Steward, fel dyn dyeithr, gael areithio; ond mai gwell a fyddai cymmeryd John Elias yn esgusodol ar y fath amgylchiad a hwn, ac y cai ef arfer ei ddawn mewn cyfarfodydd llai cyhoeddus ar hyd y wlad. Ni allent oddef y meddwl am ei wrandaw, er na addefid mo hyny ar air; ond yn hytrach, awgryment y gellid ei esgusodi am y tro! Cynnygiwyd y peth i sylw y swyddogion; ond ni fynai neb o honynt