Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwy, na'r cyhoedd chwaith, er dim i Mr. Elias fod yn ddystaw. Yr oeddynt yn benderfynol am iddo anerch y dorf.

Y cyfarfod mawr a ddaeth! Yr oedd llygaid yr holl wlad arno! Nid oedd nemawr gwr o Fôn nac Arfon, nad oedd rhywun oddi yno yn bresennol. Yr oedd y boneddigesau yn ddirifedi yno o bob man. Yr oedd pob peth erbyn hyn yn barod at ddechreu y cyfarfod, a'r lle yn orlawn o wrandawyr. Mawr oedd y pryder bellach yn mhob mynwes; a phawb yn tremio tua'r drws, ac yn ymwrandaw a oedd dim arwydd fod y cadeirydd ger llaw; ac yn dysgwyl bob mynyd glywed carnau y meirch yn trystio ar y palmant i hysbysu am ei ddyfodiad. Yr oedd y pryder yn codi fwyfwy bob mynyd fel yr oedd yr amser i ddechreu yn nesäu. Nid oedd na siw na miw, na dim tebyg am y cadeirydd o fewn pum mynyd i awr y cyhoeddiad. Ar hyn, dyma sibrwd drwy yr holl le, nad oedd y llywydd yn dyfod i'r cyfarfod! Yr oedd hyn fel tawch ar y cwbl; ac yr oedd megys niwl tywyllwch wedi ymdaenu dros bob wyneb yn y lle! Ond, ust! gyda bod yr awrlais yn dechreu taro un ar ddeg o'r gloch, dyma drwst olwynion y cerbyd yn sefyll ar y foment wrth y gorddrws, a dyma y gŵr mawr i mewn, ac i'w gadair rhag blaen, nes yr oedd yr holl le yn fyw drwyddo ar unwaith, a gwên newydd. yn cael ei gwisgo gan bawb. Erbyn hyn, dyma y ffanau, y ffuneni, a'r sidanau, gan y rhïanod, yn sïo llawenydd yn yr holl ystafell drwyddi draw. Wel! dyna bawb yn ei le, a dystawrwydd y bedd drwy bob man, a gorchwylion pwysig y cyfarfod yn dechreu.

Cododd y llywydd i fyny. Eglurodd ddybenion y cyfarfod mewn byr eiriau. Dywedodd ei fod yn hollol gymmeradwyo amcan y gymdeithas; ac yr ystyriai yn fraint iddo gael cydweithredu yn mhob modd tuag at ddwyn y fath gynllun bendigedig yn mlaen! Wedi darllen yr adroddiad, a myned drwy gylch y gorchwylion arferol, galwyd ar yr areithwyr i gymmeryd rhan yn ngwasanaeth y cyfarfod, gyda y cynnygion a'r cefnogiadau. Ai y cyfan yn mlaen yn y modd mwyaf dymunol a chymmeradwy.

Bellach, dyna enw Mr. John Elias yn cael ei alw o'r gadair. Rhyfedd oedd yr olwg ar nifer yn y lle y pryd hwnw