Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd llawer yn troi gwegil, ac nid wyneb, tuag ato: ereill, yn hytrach na throi cefn, yn gwneyd osgo lled ochrog tuag ato, gyda gwefl laes, a thrwyn sur, a llygad cilwgus! Wel! o'r goreu: nid oedd yr holl agweddau a wneid yn ddigonol i'w roddi ef i lawr. Deuai yn mlaen—talai foesgyfarchiad i'r llywydd, mewn ymddygiad tra boneddigaidd; a dychwelai y llywydd yr amnaid yn ol gyda gwên. Gwelai yn eglur fod rhywbeth ynddo ar yr olwg gyntaf! Dechreuai yr hen gyfaill ar ei orchwyl. Er mor gas oedd ei enw gan lawer, yr oedd hyd yn oed yr olwg arno wedi lladd hanner eu rhagfarn yn barod; ac yr oedd ei gyfarchiad gweddus o'r braidd wedi lladd yr hanner arall. Dechreuodd drwy gymmeryd golygiad ar ansawdd Cymru cyn cael y Beibl. Dangosodd, cyn pen pum mynyd, fod hanesiaeth ei wlad ar ben ei fys. Yr oedd y gynnulleidfa yn gymmysgedig o Seison a Chymry—rhai yn ei ddeall, a rhai heb ei ddeall. Pan ddaeth at hanes y cyfieithiadau Cymreig o'r Ysgrythyr, ac i'r dorf ei glywed yn son am William Salusbury, Dr. Morgan, Dr. Richard Davies, Thomas Heret, canghellwr Tyddewi, Dr. Whitgift, Dr. Hughes, Dr. Bellot, Dr. Gabriel Goodman, Dr. David Powell, ficar Rhiwabon, Archddiacon Prys, Mr. Richard Vaughan, a'r Dr. Parry, ac ereill, disgynodd seiniau ar eu clustiau na ddysgwyliasent oddi wrtho ef; a hen enwau anwyl oedd fel miwsig ar eu calonau. Ac fel yr oedd yn myned yn mlaen i son am y gwahanol argraffiadau o'r Beibl Cymraeg, ac yn rhedeg dros enwau Thomas Middleton, Rowland Heylin, Walter Cradoc, Vavasor Powell, Thomas Gouge, Stephen Hughes, Dafydd Jones, yr Esgob Llwyd, Moses Williams, a'r Morusiaid o Fôn, ac ereill, a chanfod fod yr holl hanes drwyddi, fel llythyrenau yr egwyddor, o flaen ei feddwl, nid oedd modd peidio gwrandaw arno; ac wedi dechreu ennill eu sylw, a thoddi y teimlad, a thwymno y serch, yr oedd y rhew i gyd wedi toddi yn ddiarwybod rywfodd! Ac fel yr oedd yn myned rhagddo yn ei araeth, â'i eiriau nerthol, a'i iaith dda, a'i ddawn dengar, nid oedd un gwegil nac ochr ar ei gyfer; ond pawb megys am eu bywyd yn gwrandaw ac yn tremio arno. Wedi arwain y dorf i gymmeryd golygiad ar ansawdd Cymru, a darlunio yr angen yn