Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mha un yr oedd y genedl yn sefyll am ryw ddarpariaeth mwy effeithiol na dim a gafwyd eto—er cymmaint oedd y llafur a fu, yr oedd pob dyn wedi llwyr anghofio ei gulni a'i ragfarn, a phob teimladau wedi eu cydsyfrdanu yn lân! Yna, symmudodd i orsaf newydd yn ei anerchiad. Darluniodd sefyllfa foesol y wlad ar y pryd hwnw, megys mewn rhyfel rhwng goleuni a thywyllwch—rhwng sancteiddrwydd a phechod—Crist a Belial a bod y ddwy fyddin fawr yn nesäu i gyfarfod eu gilydd yn gyflym—a bod y tir canol rhyngddynt i'w weled yn culhau bob dydd—a bod yn rhaid i'r gwirionedd lwyddo a gorchfygu ar y diwedd yn lân. Dangosodd fod dedwyddwch y byd yn troi ar yr ymdrech fawr hon. Dywedodd fod cynllun o'r frwydr a'r fuddugoliaeth wedi ei gael yn ddiweddar ar faes Waterloo! Erbyn hyn, yr oedd teimladau y dorf yn gwbl at ei alwad. Yr oedd y rhïanod er ys meityn wedi colli llinynau a chyhyrau eu hwynebau. Gwelid ambell un yn colli ei napcyn yn ddifeddwl o'i llaw, a'r llall yn gollwng ei maneg i lawr, a'r drydedd wedi colli trefn cudynau ei gwallt—a phawb yn yr un teimlad! Aeth rhagddo i ddarlunio yr ymdrech diweddar yn Waterloo; a dangosai fel yr oedd tynged cenedloedd, heddwch y byd, anturiaeth masnach, gobaith celfyddyd, cynnydd gwybodaeth—ïe, a rhwydd rediad yr efengyl—yn troi ar yr awr bwysig hono. Ond yr oedd llaw Rhagluniaeth i'w gweled yn amlwg yno. Yr oedd eu cadfridogion wedi eu donio â'r doethineb a'r gallu oedd yn ofynol i'r orchest fawr. "Yr Arglwydd sydd ryfelwr—yr Arglwydd yw ei enw." Ar hyn, tröai i ddarlunio y llywydd yn myned yn mlaen i'r maes yn y foment yr oedd y glorian fawr i droi am byth! Defnyddiodd y darluniad sydd yn llyfr Iob am y rhyfelfarch a'i farchog i'w osod allan:—"Dychymygaf," meddai ef, "ei weled yn dyfod i'r maes ar ei farch gwyn: hwnw yn diystyru arswyd, ac yn herio pob dychryn ei draed yn cloddio y dyffryn, yn llawenychu yn ei gryfder wrth gyfarfod arfau; y cawell saethau yn trystio yn ei erbyn—y cledd, y bidog, y waewffon, a'r darian, yn serenu yn ei lygaid, ac yn dysgleirio o'i amgylch; ond y cwbl i ddim ond i'w wneyd yn barotach i lyncu y ddaiar gan greulondeb a chynddaredd."