Darluniai ef yn rhedeg i ganol yr udgyrn, ac yn gwaeddi "Ha! ha!" mewn gwawd am eu penau; ac yn arogli rhyfel o bell—twrf tywysogion a bloeddio! "Ond y marchogwr enwog mewn perffaith hunanfeddiant, yn nghanol y mwg a'r tân, yn cyfarwyddo y fyddin, ac yn arwain ei gadrod, nes yr oedd wedi hollol gylchynu y gelyn, fel nad allai fyned yn mlaen nac yn ol; ond yntau yn rhy fawr ac yn rhy foneddigaidd i'w ladd ei hun pan yr oedd yn ei gyrhaedd!" Ar hyn, attaliwyd peth ar hyawdledd yr areithiwr gan deimladau y dorf; o blegid yr oedd sî dystaw yn rhedeg drwy yr holl ystafell; a chryn gamp i gadw griddfanau a chrechwenau i lawr. Ond yn mlaen yr aeth Mr. Elias yn ei araeth; ac fel yr oedd yn cryfhau yn ei nerth, ac yn tanio yn ei ysbryd, yr oedd yn myned yn fwyfwy effeithiol o hyd! Dywedai yn awr—" Dychymygaf glywed bloeddio concwest cyn ei hennill! Ië, ond concwest ar draul colli bywyd un o bigion ein cenedl a fydd! Nage; dim ond colli un aelod! Ar hyn, dyma angeu yn dyfod yn mlaen, ac yn taflu pelen nes ysgar aelod y llywydd; ond beth er hyny, dyma Ragluniaeth i'r maes yn yr un moment, ac yn gwaeddi ar angeu, fel y gwaeddodd yr angel ar Abraham gynt—Attal dy lawhyd yna yr äi, ac nid yn mhellach!' Gochel gyffwrdd â'i einioes—na feiddia fyn'd gam yn nes at ei fywyd na'r aelod. Y mae arnaf fi eisieu ei wasanaeth eto fel cadfridog mewn brwydr o natur uwch o lawer na hon—y mae arnaf fi eisieu ei wasanaeth i lywyddu yn nghadair y Feibl Gymdeithas —y mae arnaf eisieu iddo arwain byddin i daenu gair y bywyd i bob gwlad, ac iaith, a phobl, a chenedl, dros wyneb yr holl ddaiar." Bloeddiodd allan yn y fan hon â llais grymus, ond lled doddedig—"Y mae y gelyn wedi ei rwymo; ond gair Duw nis rhwymir!" Ar hyn, dyma yr holl gynnulleidfa fel pe buasai wedi ymddyrysu yn lân!—weithiau dystawrwydd—weithiau sibrwd—weithiau dystaw holi: a'r Seison oedd heb ddeall Cymraeg yn brysurach na neb, wrth ganfod y thrill drwy yr holl ystafell, yn gofyn—"What?— What was that? What did he say?—What was that excitement?" &c. Yr oedd yr holl sidanau erbyn hyn yn ddagrau—yr holl fwcram yn wlanen—a'r holl starch yn llyn!
Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/41
Gwedd